Dyn ifanc o Fôn yn gorfod aros dros 80 diwrnod am driniaeth ganser

Dyn ifanc o Fôn yn gorfod aros dros 80 diwrnod am driniaeth ganser

Fe wnaeth dyn ifanc o Fôn orfod aros dros 80 diwrnod y llynedd i ddechrau triniaeth ganser wedi amheuon am gam-ddiagnosis.

Mae Shôn Blackmore yn 20 oed ac o Langaffo ar Ynys Môn yn wreiddiol, ond bellach yn fyfyriwr yn y brifysgol yn Lerpwl. 

Cafodd Shôn ddiagnosis tybiedig o Hodgkin's lymphoma ar 3 Gorffennaf 2025, ond er hynny ni ddechreuodd ei driniaeth tan 24 Medi y flwyddyn honno. 

Targed Llywodraeth Cymru yw y dylai 75% o gleifion ddechrau ar eu triniaeth ganser o fewn 62 diwrnod i'r adeg pan mae'r canser yn cael ei amau yn y lle cyntaf. 

Mae Hodgkin's lymphoma yn fath o ganser y gwaed sy'n datblygu pan mae mathau penodol o gelloedd gwyn y gwaed yn rhoi'r gorau i weithio'n iawn. 

Mae'n un o'r mathau mwyaf cyffredin o ganser mewn oedolion ifanc, gyda symptomau yn cynnwys lwmp yn ymddangos ar y gwddf, chwysu yn y nos, colli pwysau a theimlo'n flinedig. 

Image
Shôn Blackmore
Roedd Shôn Blackmore yn fyfyriwr yn Lerpwl pan ddechreuodd brofi symptomau.

Wedi i Shôn ddechrau dangos y symptomau rheini, fe aeth at ei Feddyg Teulu yn Lerpwl lle'r oedd yn fyfyriwr ar ddechrau 2025. Cafodd brofion gwaed, ac ni ddaeth unrhyw beth amheus yn ôl o'r profion hyn. 

Roedd yn parhau i deimlo'n wael, felly fe aeth Shôn i'r Adran Achosion Brys mewn ysbyty yn Lerpwl gyda phoen yn ei ysgwydd a phoen wrth yfed alcohol. 

Yn ôl Shôn, y cyngor a dderbyniodd oedd i "gymryd ychydig o ibuprofen ac fe fyddai'n teimlo'n well".

Ond wedi i Shôn ddychwelyd adref i Fôn ar ddiwedd ei flwyddyn gyntaf yn y brifysgol, fe ddechreuodd deimlo lwmp yn tyfu, ac fe aeth at ei Feddyg Teulu lleol. 

"Nes i ddeutha nhw'r whole list o symptomau a na’th o ddeutha fi’n union, ‘Rho 5 munud i fi’, nes i fynd i'r waiting room... dod nôl a na’th o ddeutha fi ‘Dwi ’di siarad efo’r ysbyty, ‘ma’ nhw isio gweld chdi‘n A&E wan'.

"A saith awr wedyn nes i adael efo gyd o'r tests a ffeindio allan pythefnos wedyn."

Image
Shôn

Mae Shôn yn hynod o ddiolchgar i'w Feddyg Teulu lleol am weithredu'n gyflym.

"Even though oedd o ddim yn gw’bod y problem, nath o dal ffindio rywun arall o’dd yn, na’th o neud yr extra mile o work i ffindio allan," meddai.

"Ag even though nes i gael fy diagnosio efo Stage 2, ‘sa fo easily ’di gallu bod yn Stage 3, 4 erbyn i fi ffeindio allan.

"Dwi mor ddiolchgar idda fo a sut na’th o helpu a heb fo, dwi’m even yn gwbo os fyswn i yma rwan i siarad."

Fe aeth Shôn i'r Adran Achosion Brys yn Ysbyty Gwynedd yn dilyn yr atgyfeiriad gan ei Feddyg Teulu. Ar ôl iddo gael profion pellach, fe gafodd ddiagnosis tybiedig (suspected diagnosis) o Hodgkin's lymphoma Cam 2 ar 3 Gorffennaf 2025. 

Ond wedi hyn, mae Shôn yn dweud iddo gael gwybod y byddai yn rhaid iddo ddisgwyl tair wythnos arall am brofion pellach. 

Fe wnaeth ef a'i deulu gysylltu gyda'r Gwasanaeth Ymholiadau a Datrysiadau Pobl (PALs) am y ffaith ei fod wedi cael gwybod y byddai yn gorfod aros am dair wythnos.

"O'n i'n gorfod cwffio efo'r system, ma'r system wedi torri," meddai.

"O'n i'n gorfod disgwyl ages i gael y biopsi, oeddan nhw isio tair wythnos ag o'n i'n meddwl 'Dwi 'di cael diagnosis canser, fedra i ddim disgwyl hynna faint."

Image
Mae teulu Shôn wedi codi dros £40,000 ar gyfer elusennau a wnaeth ei gefnogi.
Mae teulu Shôn wedi codi dros £40,000 ar gyfer elusennau a wnaeth ei gefnogi.

Fe gafodd Shôn ei drosglwyddo yn ddiweddarach i Ganolfan Ganser Clatterbridge yn Lerpwl sydd ag uned arbenigol i bobl ifanc. 

Fe ddigwyddodd hyn gyda chymorth elusen Teenage Cancer Trust, sy'n gweithio'n agos gyda'r Uned Pobl Ifanc yn y ganolfan. 

Ond cyn iddo allu dechrau ei driniaeth, roedd yn rhaid iddo gael ei gyfeirio at Fwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro. 

Yn ôl Shôn, fe gafodd wybod fod yn rhaid i hyn ddigwydd gan mai nhw sydd yn arbenigo mewn triniaeth Hodgkin's lymphoma yng Nghymru.

Ond fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth Newyddion S4C fod arbenigedd o ran diagnosis yn dod gan Banel Lymphoma Cymru Gyfan, sydd yn wasanaeth ar gyfer Cymru gyfan. 

Er ei fod wedi cael diagnosis tybiedig o Hodgkin's lymphoma Cam 2, roedd Caerdydd yn amau mai y diagnosis cywir oedd Cam 4 non-Hodgkin's lymphoma. 

"Nes i gael biopsi arall, dwi dal efo'r scar," meddai.

"Nes i gael Stage 2 Hodgkin's lymphoma sy'n iawn, dio'm yn neis ond ma'n well na be' o'dd yr opsiwn arall sef Stage 4 non-Hodgkin's lymphoma lle o'dd o'n edrych fa'tha o'n i efo blwyddyn max os 'swn i'n cael fy diagnosio efo hynna."

Fe wnaeth y teulu gwyn arall ar ôl cael gwybod y byddai’n rhaid i Shôn ddisgwyl dwy i dair wythnos arall am brofion pellach. Yn dilyn hyn fe gafodd wybod y byddai apwyntiad ar gael ychydig ddyddiau yn ddiweddarach.

Image
Shon
Fe gafodd Shôn ofal arbenigol yng Nghanolfan Ganser Clatterbridge yn Lerpwl 

Wedi hynny cafodd ddiagnosis wedi’i gadarnhau o Hodgkin lymphoma Cam 2, sef yr un gwreiddiol a dderbyniodd ar 3 Gorffennaf 2025.

Er ei fod wedi derbyn y diagnosis tybiedig yma ar 3 Gorffennaf 2025, dim ond ar 22 Medi y cafodd Shôn ddiagnosis swyddogol. Roedd hyn 81 diwrnod yn ddiweddarach. Fe ddechreuodd ei driniaeth ar 24 Medi.

"Dwi'm yn dalld sut nathon nhw gael o mor anghywir a ma'r treatment yn completely wahanol so os 'swn i 'di di cael fy diagnosio efo hwnna, fyswn i byth wedi cael y treatment iawn," meddai.

Ychwanegodd Shôn: "O'dd o jyst mor frustrating. O'dda ni'n hapus efo Lerpwl, o'dd Lerpwl yn gwbo be o'ddan nhw'n neud, o'ddan ni'n trystio Lerpwl ond oeddan ni jyst methu deud na i Gaerdydd. 

"Jyst brwydr constant jyst i gael yr atebion, a na'th Teenage Cancer Trust goro rhoi fi fewn efo un o'r psychologists am therapy sessions jyst i fi gael y support 'na."

Mewn ymateb, fe ddywedodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro wrth Newyddion S4C: "Mae’n ddrwg gennym glywed am brofiad Shôn ac rydym yn cydnabod pa mor heriol mae’r broses o gael diagnosis canser wedi bod iddo ef a’i deulu. 

"Rydym yn deall fod oedi mewn diagnosis, yn benodol pan mae canser yn cael ei amau, yn gallu bod yn ofidus ac achosi poen sylweddol i gleifion a’u hanwyliaid.

"Gan y byddai'n anaddas gwneud sylwad ar achos unigol unigolyn, nid oes modd i ni wneud sylwad pellach. Mae croeso i Shôn gysylltu â'n Tîm Pryderon pe bai'n dymuno trafod y mater ymhellach."

Image
Shôn a'i deulu ar ddiwedd ei driniaeth.
Shôn a'i deulu ar ddiwedd ei driniaeth.

Mae angen codi ymwybyddiaeth o symptomau Hodgkin's lymphoma yn ôl Shôn. 

"Hwnna ydi canser pobl ifanc, ma' neb yn gwbo' be 'dio, do'n i ddim yn gwbo be o'dd o. I gyd dwi'n gw'bod ydi un o'r prif symptomau ydi lwmp yn ymddangos, ond hwnna oedd yr un ola i ddod i fi," meddai. 

"Fyswn i easily 'di gallu cael fy diagnosio o leia tri neu bedwar mis yn gynharach na be nes i, ond doedd pobl ddim yn aware o'r symptomau. 

"A&E, oce 'dyn nhw ddim yn specialists ond ddylsa nhw w'bod rhywun ifanc efo'r symptoma yna, ddylsa nhw gael eu trainio

"Even just GPs in general, os ti'm yn gw'bod be i neud, siarad i rywun sydd yn, dyna be nath ddigwydd a nes i gael y triniaeth iawn."

Image
Shôn
Shôn a'r nyrsys ar ddiwedd ei driniaeth.

Wrth ymateb, dywedodd Llywodraeth Cymru: "Rydym wedi ymrwymo i gyflwyno Cynllun Cenedlaethol Canser, ac mae'r gwaith paratoi eisoes ar y gweill i fynd â hyn ymlaen.

"Mae Perfformiad a Gwella GIG Cymru yn cefnogi'r GIG i wella perfformiad amser aros canser ac i fynd i'r afael â'r gwahaniaethau mynediad ledled Cymru.”

Mae Dr Clara Day, Cyfarwyddwr Meddygol Gweithredol Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi dweud bod y bwrdd iechyd yn "cydnabod" bod gorfod aros i gael diagnosis yn gallu achosi poen meddwl. 

"Er nad ydyn ni wedi derbyn cydsyniad gan y claf i siarad â'r wasg am yr achos penodol yma, rydym yn cyd-deimlo gyda phawb sydd yn disgwyl am ddiagnosis canser wedi ei gadarnhau," meddai.

"Rydym yn cydnabod fod oedi diagnostig yn arwain at straen a phoen cynyddol i'r cleifion a'u teuluoedd, yn ystod cyfnod sydd eisoes yn anodd.

"Rydym yn annog cleifion i siarad â ni’n uniongyrchol os oes ganddynt bryderon. Byddwn yn annog cleifion i ailgysylltu â ni os ydynt yn teimlo nad yw’r materion y maent wedi’u codi wedi cael sylw llawn."

Dywedodd llefarydd ar ran GIG Sir Caer a Glannau Mersi eu bod wedi "eu hymrwymo i wella diagnosis cynnar o ganser fel blaenoriaeth allweddol". 

"Rydym yn cydnabod y pwysigrwydd o godi ymwybyddiaeth o symptomau, gan gynnwys y rhai sy'n gysylltiedig â chanserau sydd yn llai cyffredin, er mwyn cefnogi diagnosis amserol," medden nhw.

"Rydym yn gweithio'n agos gyda'n holl bartneriaid ar draws y system i hyrwyddo canfod cynnar ac yn annog pobl i ofyn am gyngor os oes ganddynt bryderon." 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.