Tad a gollodd ei fab ifanc yn croesawu cynnig i roi absenoldeb â thâl i ofalwyr
Mae tad a gollodd ei fab ifanc wedi croesawu cynnig a fyddai'n sicrhau cefnogaeth ariannol i rieni plant sydd yn ddifrifol wael, gan ei alw yn "foment hynod arwyddocaol".
Mae Llywodraeth y DU yn ymgynghori am absenoldeb â thâl ar gyfer rhieni mewn amgylchiadau o'r fath yn ogystal â gofalwyr di-dâl, sydd ar hyn o bryd ond yn gymwys i gael amser di-dâl i ffwrdd o'r gwaith.
Bwriad y cynigion yw atal pobl rhag gorfod "dewis rhwng eich swydd a'r bobl rydych chi'n ei garu" yn ôl y Gweinidog Hawliau Cyflogaeth yn San Steffan, Kate Dearden.
Cafodd elusen ei sefydlu er cof am Hugh Menai-Davis, a fu farw yn chwech oed yn 2021 ar ôl brwydr â chanser.
Mae'r elusen wedi bod yn ymgyrchu am absenoldeb â thâl ar gyfer rhieni plant sydd yn ddifrifol wael.
Byddai Cyfraith Hugh yn sicrhau cefnogaeth ariannol lle mae “bwlch dinistriol” i rieni ar hyn o bryd, meddai’r elusen It’s Never You.
Dywedodd tad Hugh, Ceri Menai-Davis fod ei fyd e a'i wraig "wedi dod i ben dros nos" pan y cafodd eu mab ddiagnosis, gan "ddarganfod yn sydyn iawn er fod yna fframwaith i gefnogi'r plentyn drwy driniaeth, prin iawn yw'r gefnogaeth ar gyfer y rhieni sydd yn sefyll wrth eu hymyl.
"Ni ddylai unrhyw riant orfod dewis rhwng bod wrth wely eu plentyn yn yr ysbyty a thalu'r morgais."
Fe ddisgrifiodd Mr Menai-Davis lansio’r ymgynghoriad, a fydd yn cael ei gynnal tan 1 Medi, yn “foment hynod arwyddocaol” gan annog “rhieni, gofalwyr, cyflogwyr a sefydliadau” i gyfrannu at yr ymgynghoriad “a helpu i lunio system sy’n adlewyrchu’r realiti y mae teuluoedd yn ei wynebu yn ystod rhai o ddyddiau anoddaf eu bywydau”.
Mae'r elusen hefyd wedi cael cefnogaeth cyn-gapten Cymru Aaron Ramsey dros y blynyddoedd.
Mae'n ffrind i'r teulu Davis sy'n byw yn Sir Hertford, ac sydd â chysylltiadau â Chymru.
Fe wnaeth Ramsey redeg Marathon Llundain eleni gan godi arian ar gyfer yr elusen.
Wrth siarad cyn y marathon, dywedodd fod yr elusen "yn agos iawn at fy nghalon. Dwi'n adnabod Ceri a Fran a'u teulu. Ro'n i'n adnabod Hugh yn dda iawn. Mae fy mab hynaf i, Sonny, tua'r un oed, ac roedden nhw'n arfer chwarae gyda'i gilydd.
"Dwi methu dychmygu'r hyn y maen nhw wedi ei wynebu, ond maen nhw'n ysbrydoliaeth i fi, fy nheulu ac eraill."
Roedd Hugh yn bump oed pan y cafodd ddiagnosis risg uchel o rhabdomyosarcoma ym mis Hydref 2020. Ychydig wedi ei benblwydd yn chwech, bu farw ar 18 Medi 2021.
Ychydig dros ddwy flynedd yn ôl daeth hawl gyfreithiol i ofalwyr gael absenoldeb di-dâl i rym yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Ers Ebrill 2024, mae gweithwyr sy'n gofalu am berson sy'n ddibynnol arnyn nhw wedi bod â hawl i hyd at wythnos o absenoldeb di-dâl bob 12 mis – sy'n cyfateb i bum niwrnod i'r rhan fwyaf o bobl.
Ond mae Carers UK wedi bod yn galw am hawl statudol am absenoldeb â thâl i ofalwyr, gan ddadlau fod y gefnogaeth gweithle bresennol a hawliau cyflogaeth "ddim yn adlewyrchu y realiti o ofalu".