Llys yn clywed honiadau dynes o gael ei threisio mewn pabell ger safle Eisteddfod Llŷn ac Eifionydd

09/06/2026
Emlyn Jones

Rhybudd: Mae'r erthygl hon yn cynnwys disgrifiad o ymosodiad rhyw honedig 

Mae llys wedi clywed tystiolaeth gan ddynes sy'n honni iddi gael ei threisio gan ddyn ger safle Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ym Moduan yn 2023.

Wrth roi tystiolaeth yn erbyn Emlyn Jones, 27 oed, yn Llys y Goron Caernarfon ddydd Mawrth, dywedodd y ddynes fod yr ymosodiad wedi digwydd mewn pabell tu mewn i adlen carafán yn oriau mân y bore, ar ôl iddi adael cyngerdd Bwncath gyda ffrindiau ar faes yr Eisteddfod.

Mae Emlyn Jones o Gapel Curig yn wynebu pedwar cyhuddiad, sef treisio, tagu bwriadol, ymosod trwy dreiddio (‘assault by penetration’) ac un achos o ymosod yn rhywiol.

Mae'n gwadu'r holl gyhuddiadau yn ei erbyn.

Tystiolaeth fideo

Ar ddechrau'r ail ddiwrnod o'r achos, cafodd fideo o dystiolaeth yr achwynydd i'r heddlu ei ddangos i'r rheithgor.

Yn y fideo, a gafodd ei recordio ar 1 Medi 2023 yn Llandudno, dywedodd y ddynes wrth swyddogion ei bod wedi cyrraedd yr Eisteddfod am 18:30 ar noson y 6ed o Awst, cyn mynd at ardal y prif lwyfan i gyfarfod rhagor o ffrindiau.

Ar ôl mwynhau cyngerdd Bwncath, aeth y criw ymlaen i Bar Syched, gyda phawb wedi cael amser da yn yfed ac yn mwynhau.

Aeth hi a dyn arall i chwilio am y garafán yr oeddynt am aros ynddi, cyn mynd ar goll am ryw awr.

"Ar y ffordd, naetho ni weld Emlyn (Jones) ag oedd o wedi really gwylltio. Roedd o'n lloerig, roedd o'n really blin", meddai.

Mewn ymgais i'w dawelu cafodd Mr Jones gynnig i rannu pabell o fewn yr adlen gyda'r ddynes a'r dyn arall. 

Erbyn hynny roedd hi'n tua 03:00 y bore, ychwanegodd.

Ymosodiad honedig

Dywedodd y ddynes yn ei chyfweliad fideo ei bod wedi disgyn i gysgu ond wedyn fe ddeffrodd "gyda rhywun yn teimlo fi".

Gwylltiodd hyn y dyn arall oedd yn y babell, ac fe ddywedodd yntau wrth Emlyn Jones: "Be **** ti'n wneud? Be sy'n bod arna chdi? Dwi'n hatio chdi."

Gadawodd y babell, cyn i'r achwynydd ddweud wrth Emlyn Jones: "Be **** sy'n bod arna ti? Mae hynna'n really weird be ti wedi wneud."

Dywedodd y ddynes y byddai'n siarad gyda Mr Jones am y peth yn y bore, gan ddweud wrtho am beidio â'i chyffwrdd hi eto.

"Y peth nesaf nes i ddeffro i'r un peth eto," meddai.

Image
Canolfan Gyfiawnder Caernarfon
Mae'r achos yn cael ei gynnal yng Nghanolfan Cyfiawnder Troseddol Caernarfon

Y tro hwn roedd yr hyn ddigwyddodd yn "llawer gwaeth", gyda'r diffynnydd yn gafael ym mronnau'r ddynes cyn symud ei ddwylo i weddill ei chorff, esboniodd.

"O ni'n trio paffio fo ag oedd o ddim yn lecio hynna," meddai.

"Nes i drio tynnu trowsus fi fyny a nes i ddweud plis paid, plis stop."

Dywedodd ei bod wedi ceisio ei atal, cyn iddo "hookio llaw rownd gwddw fi a canol fi a wedyn dechrau crogi fi".

"Nes i drio paffio hefo fo a oedd o jyst yn crogi fi fwy," meddai.

Dywedodd bod Emlyn Jones wedi mynd ymlaen i gael rhyw gyda hi heb ei chaniatâd, cyn iddi adael y babell a rhedeg i'w char mewn ofn.

Pan oedd hi yn ei char fe wnaeth y diffynnydd guro ar y drws, gan ymddiheuro am yr hyn ddigwyddodd, meddai'r achwynydd.

"Dwi'n sori, dwi'n sori. Dwi ddim yn gwybod pam wnes i wneud hynna," oedd ei eiriau, yn ôl y ddynes.

Dywedodd hithau wrtho yn ei thystiolaeth na fyddai'n dweud wrth neb.

Croesholi

Wrth eistedd tu ôl i sgrîn brynhawn dydd Mawrth, cafodd y ddynes ei chroesholi gan Caroline Rees KC ar ran yr amddiffyniad.

Gofynnwyd iddi am y trefniadau cysgu o fewn adlen y garafán ar y noson, lle'r oedd dwy babell fach wedi eu gosod.

Gofynnwyd iddi hefyd faint o alcohol yr oedd wedi ei yfed cyn mynd i'r cyngerdd ar faes yr Eisteddfod, a faint yr oedd wedi yfed wedyn.

Mynnodd y ddynes mai nid edifar am gamgymeriad o gael rhyw gyda Mr Jones oedd sail ei chwyn yn ei erbyn.

Diod

Dywedodd ei bod wedi cael llai na hanner potel o wîn, rhwng tri a phedwar gwydr o Pimms ac yna oddeutu tri pheint ym Mar Syched ar ôl y cyngerdd.

"Doeddwn i ddim yn llanast na ddim byd. Dwi'n cofio gwylio Bwncath a dwi'n cofio cerdded i Bar Syched," meddai.

Ychwanegodd mai dyma oedd y tro cyntaf iddi yfed alcohol ers tro gan ei bod wedi bod ar wrthfiotigau, ond anghytunodd gyda'r awgrym y byddai hynny wedi effeithio'n ormodol arni.

Dywedodd ei bod wedi gweld Emlyn Jones yn ystod cyngerdd Bwncath a bod popeth wedi bod yn iawn bryd hynny.

Syniad pwy oedd hi i Emlyn Jones ymuno yn y babell oedd cwestiwn nesaf y fargyfreithwraig.

"Pwy wnaeth benderfynu i chi'ch tri fynd i mewn i'r tent bach gyda'ch gilydd?" meddai Caroline Rees KC.

"Nath neb benderfynu yn benodol," meddai'r ddynes.

Sach gysgu

Dywedodd y fargyfreithwraig wrthi fod dewis ganddi fynd i mewn i sach gysgu "a'i wneud e lan".

Cadarnhaodd y ddynes hynny gan ddweud nad oedd wedi gwneud hynny er mwyn i bawb fod yn gynnes.

Awgrymodd Caroline Rees fod ganddi hefyd ddewis i gysgu yn y garafán y noson honno, ond gwadodd yr achwynydd hynny, gan ddweud nad oedd yn adnabod y bobl oedd ynddi'n dda.

Wrth drafod y cyfnod pan ddeffrodd hi gyntaf yn y babell, gofynnwyd iddi os oedd y dyn arall oedd yno wedi galw enwau arni hi ac ar Mr Jones hefyd.

"Do," meddai gan ychwanegu fod y dyn wedi defnyddio enw sarhaus am ferched arni.

Unwaith yr oedd y dyn hwnnw wedi gadael, aeth y ddynes yn ôl i'r babell "i ddweud y drefn wrth Emlyn basically", meddai.

"Roedd dewis da ti i fynd i mewn i'r garafán yn lle i'r babell at Emlyn" meddai Caroline Rees KC. Gofynnodd iddi pam.

Dywedodd ei bod wedi gwneud hynny am ei bod yn flin gydag ef.

"Galle ti fod wedi cysgu mewn sawl man arall yn lle gydag Emlyn. Wyt ti'n cytuno?" gofynnodd y fargyfreithwraig.

Cadarnhaodd hynny, gan ychwanegu nad oedd wedi mynd i gysgu i'w char gan nad oedd hi'n gallu dod o hyd i'w hallweddi.

'Gweiddi'

Wrth droi at yr ail dro i Mr Jones gyffwrdd ynddi yn y babell, dywedodd Caroline Rees fod y ddynes wedi dweud wrth yr heddlu ei bod wedi "gweiddi 'paid' yn eithaf uchel".

Dywedodd y ddynes fod hynny'n gywir, cyn dweud nad oedd wedi gofyn am help gan bobl oedd yn agos am nad oedd yn gwybod yn sicr a oedd neb yn yr ail babell yn yr adlen nac yn y garafán chwaith.

"Nath o ddim dy grogi di o gwbl naddo?" gofynnodd Caroline Rees, gan ychwanegu: "Dyna un peth na wnaeth ddigwydd o gwbl."

"Second thoughts a chywilydd am yr hyn ddigwyddodd rhyngddo chi'ch dau" oedd yr hyn a oedd wedi digwydd, meddai.

Cadarnhaodd y ddynes ei bod wedi dychwelyd i'r Eisteddfod ar ôl ychydig ddiwrnodau.

"Oeddech chi ddim yn becso am fynd nôl?" gofynnwyd iddi.

Dywedodd yr achwynydd ei bod wedi ceisio cuddio'r hyn ddigwyddodd rhag pawb.

"Roeddwn i'n trio actio fel fod popeth yn iawn," meddai.

"Rwy'n mynd i awgrymu i chi eich bod wedi cytuno i bopeth rhywiol ddigwyddodd. Wedi sobri yn y bore. Regrets oedd ganddo chi ynde?" gofynnodd y fargyfreithwraig.

"Na," meddai'r ddynes.

Mae'r achos yn parhau.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.