'Ysbrydoli cymaint': Cefnogwr tîm pêl-droed Cymru wedi marw'n 38 oed yn dilyn brwydr canser

Matthew Collins

Mae cefnogwr tîm pêl-droed Cymru a gafodd ddiagnosis o ganser yr ymennydd nad oedd modd gwella ohono wedi marw yn 38 oed.

Bu farw Matthew Collins o Aberdâr ddydd Sul 31 Mai, ar ôl brwydr hir yn erbyn y tiwmor.

Fel aelod brwd o'r Wal Goch, fe gafodd Matthew wireddu un o'i ddymuniadau olaf, sef i glywed anthem answyddogol tîm pêl-droed Cymru, Yma o Hyd yn cael ei chwarae wrth iddo huno.

Fe gafodd Matthew ddiagnosis yn 35 oed, a hynny ym mis Hydref 2023 ar ôl iddo ddioddef strôc.

Fe wnaeth pobl gyfrannu dros £200,000 at gronfa i dalu am driniaeth oedd yn galluogi Matthew i ymestyn ei fywyd.

Roedd y triniaethau yn cynnwys rhai arbenigol, fel brechlyn o’r enw DCVax-L ac imiwnotherapi dramor.

Mewn teyrnged iddo, dywedodd ei dad, Paul, ei fod wedi "ysbrydoli cymaint" a'u bod yn "falch iawn" o'i fab.

"Mae'n torri fy nghalon wrth ddweud bod ein mab gwych, dewr a hyfryd, Matthew, wedi marw wedi'i amgylchynu gan ei deulu," meddai.

"Ni fyddai Matt wedi gallu darlunio diweddglo gwell, gan iddo ein gadael wrth i Yma o Hyd chwarae a sicrhau bod ei lais yn dal yn cael ei glywed.

"Roedd yn gallu treulio amser gyda'r rhai oedd yn ei garu - ac mae'r atgofion hynny yn ein cynnal ar hyn o bryd.

"Roedd ei agwedd at fywyd wedi ysbrydoli cymaint ac rydym yn falch iawn ohono, ac yn gobeithio eich bod chi'n falch ohono hefyd."

Image
Matthew Collins
Matthew Collins ar 16 Hydref 2024, blwyddyn wedi ei ddiagnosis.

Ychwanegodd Paul: "Mae Matt wedi dangos i ni nad oes angen i ni symud ymlaen. Gallwn eistedd gyda'r boen, y torcalon a'r annhegwch a pharhau i chwerthin, dathlu a darganfod llawenydd.

"Doedd Matt erioed wedi newid pwy oedd e, ac rydym yn ddiolchgar iawn am hynny."

Roedd Matthew wedi derbyn gofal diwedd oes gan elusennau Marie Curie a City Hospice.

Bydd unrhyw arian sy'n weddill o'i dudalen GoFundMe yn cael ei rannu rhwng y ddwy elusen.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.