Dyn 18 oed wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Caerdydd
Mae dyn 18 oed o Drelái wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar gyrion Caerdydd ddydd Sadwrn.
Dywedodd Heddlu’r De bod swyddogion wedi'u galw toc wedi 20.05 nos Sadwrn yn dilyn adroddiad am wrthdrawiad rhwng dau gerbyd ger pentref Sain Nicolas ar gyrion y brifddinas.
Bu farw’r dyn 18 oed yn y fan a'r lle.
Mae ei deulu wedi cael gwybod ac yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol.
Ychwanegodd yr heddlu fod dau berson arall - menyw 59 oed a dyn 64 oed o Dresimwn, Bro Morgannwg - wedi cael eu cludo i'r ysbyty i gael triniaeth am anafiadau a gafwyd yn y gwrthdrawiad.
Mae ymchwiliad i'r gwrthdrawiad ar y gweill ar hyn o bryd.
