Starmer i groesawu Zelensky, Macron a Merz i drafodaethau yn Rhif 10

Keir Starmer

Fe fydd Syr Keir Starmer yn croesawu Volodymyr Zelensky, Emmanuel Macron a Friedrich Merz i Rif 10 Downing Street ddydd Sul i drafod cefnogaeth barhaus gwledydd Ewrop ar gyfer Wcráin.

Bydd arweinydd Wcráin yn ymweld â'r Deyrnas Unedig gydag Arlywydd Ffrainc a Changhellor yr Almaen ar ôl i’r anghydfod rhwng Wcráin a Rwsia ddwysáu dros y dyddiau diwethaf. 

Mae Vladimir Putin hefyd wedi gwrthod cynnig Arlywydd Zelensky i gynnal trafodaethau wyneb yn wyneb am y rhyfel.

Fe daniodd lluoedd Wcráin dronau at St Petersburg, ail ddinas fwyaf Rwsia, ddydd Sadwrn.

Yn Wcráin, cafodd un person ei ladd a thri eu hanafu yn rhanbarth Dnipropetrovsk wrth i luoedd Rwsia daro tair ardal bron i 30 o weithiau gyda dronau yn ôl awdurdodau yn y wlad.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.