David Sullivan wedi camu i lawr fel cyd-gadeirydd West Ham dros 'honiadau hanesyddol'
Mae David Sullivan wedi camu i lawr o'i rôl fel cyd-gadeirydd clwb pêl-droed West Ham United ar ôl "dod yn ymwybodol o gyhoeddiad sydd ar ddod o honiadau hanesyddol difrifol", meddai'r clwb.
Y gred yw nad yw'r un o'r honiadau'n ymwneud â West Ham nac unrhyw un o'i weithrediadau, ychwanegodd y clwb.
Cafodd y biliwnydd, sy’n 77 oed, ei eni yng Nghaerdydd a’i fagu mewn tŷ cyngor ym Mhenarth cyn i’w deulu symud i Loegr.
Dywedodd datganiad gan Mr Sullivan fore Sadwrn: "Rwyf wedi dod yn ymwybodol yn ddiweddar fod honiadau degawdau oed sy'n ymwneud â fy mywyd personol, sy'n ffeithiol anghywir ac yn gwbl ffug, ar fin cael eu darlledu a'u cyhoeddi."
Ychwanegodd: "Mae’r honiadau ffug a wnaed yn fy erbyn wedi cael eu gorliwio gan y cyfryngau.
"Ar ôl treulio oes yn adeiladu busnesau yn y diwydiant oedolion, lle rwyf wedi cwrdd â miloedd o fenywod, mae'n anochel, yn anffodus, bod nifer fach o honiadau ymddygiad amhriodol yn cael eu gwneud yn fy erbyn. Rwy'n gwadu'r honiadau hyn yn bendant."
Gwnaeth Mr Sullivan ei ffortiwn o fod yn berchen ar gylchgronau pornograffig a siopau rhyw.
Llun: PA