Newyddion S4C

Dyn wedi marw mewn gwrthdrawiad yng Ngwynedd

10/09/2021
Heddlu

Mae dyn yn ei saithdegau wedi marw yn dilyn gwrthdrawiad ar ffordd yr A493 ym Meirionnydd brynhawn dydd Gwener.

Yn ôl Heddlu’r Gogledd, daeth adroddiadau am wrthdrawiad rhwng beic modur a char ar yr heol rhwng Dolgellau a Thywyn toc cyn 14:30 ddydd Gwener, 10 Medi.

Daeth y gwasanaethau brys i’r digwyddiad ond bu farw’r dyn yn y fan a’r lle.

Mae’r A493 dal i fod ar gau, yn ôl yr heddlu.

Dywedodd Sarjant Liam Morris o Uned Blismona’r Ffyrdd: “Gyda thristwch, mae’r digwyddiad nawr yn cael ei thrin fel ymchwiliad i wrthdrawiad ffordd angheuol.

“Mae’r A493 yn Y Friog yn dal ar gau i ganiatáu ein cydweithwyr o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Fforensig i wneud eu gwaith ymchwil cychwynnol".

Mae’r heddlu’n apelio am wybodaeth gan unrhyw lygad-dystion a deunydd fideo ar geir.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.