Wrecsam i ymuno gyda chlybiau pêl-droed byd-enwog ar gêm FIFA 22
10/09/2021
Wrecsam
Fe fydd clwb pêl-droed Wrecsam yn un o’r timau i ymddangos ar gêm fideo boblogaidd FIFA 22.
Mae'r cwmni sydd yn gyfrifol am ddatblygu'r gêm, EA Sports, wedi cadarnhau y bydd y clwb, sydd bellach dan berchnogaeth y sêr Hollywood Ryan Reynolds a Rob McElhenney, yn rhan o’r gêm ddiweddaraf yn y gyfres.
Bydd modd chwarae dan enw Wrecsam yng nghategori ‘Gweddill y Byd’.
Ar hyn o bryd, mae’r clwb yn chwarae yn y Gynghrair Genedlaethol.
Dyma fydd yr unig garfan y tu allan i’r gynghrair honno i gael ei chynnwys fel rhan o’r gêm fyd enwog.
Mae disgwyl y bydd FIFA 22 yn cael ei rhyddhau ar ddechrau Hydref.
Llun: Asiantaeth Luniau Huw Evans