Mwy o donnau gwres yn bosib yr haf hwn

Tywydd poeth

Fe allai Prydain weld haf poethach na'r arfer yn ôl y rhagolygon tywydd.

Ar y 1af o Fehefin fe wnaeth y Swyddfa Dywydd gyhoeddi ei rhagolwg ar gyfer tri mis yr haf. Roedden nhw yn dweud bod yna bosibilrwydd uwch na'r arfer o dywydd poeth yn ystod mis Mehefin.

Yr un yw'r sefyllfa ar gyfer misoedd eraill yr haf.

Gan edrych ar fisoedd Gorffennaf ac Awst y gred yw bod yna "debygrwydd uwch o donnau gwres (heatwaves)".

Ym mis Mai cafodd y diwrnod poethaf erioed yng Nghymru ei gofnodi. Y tymheredd oedd 32.2C ym Mhenarlâg, Sir y Fflint ar Mai 25. Fe gafodd y record ei thorri mewn mannau eraill o'r DU hefyd ym mis Mai gyda thymheredd o 35.1C  yng Ngherddi Kew yn Llundain.

Am y tro cyntaf eleni cafodd rhybuddio melyn a choch yn ymwneud â'r gwres eu datgan.

Mae'r Swyddfa Dywydd a MetoGroup wedi dweud posibilrwydd o "bigion tymheredd uwch" yn ystod y misoedd nesaf.

Maent hefyd yn dweud y gallen ni weld "hyrddiau sylweddol o wres" ym Mhrydain ac ar draws Ewrop.

Mae mwy o ansicrwydd ynglŷn â faint o law y cawn ni yn ystod yr haf gyda'r rhai sydd yn edrych ar y tywydd yn anghytuno.

Darogan y MetoGroup yw cyfnod mwy sych tra bod y Swyddfa Dywydd yn darogan cyfnod arferol neu yn fwy gwlyb na'r arfer.

Pwrpas rhagolygon tywydd tymhorol yw rhoi syniad i asiantaethau llywodraeth, darparwyr iechyd a chyflenwyr ynni o'r hyn allai ddigwydd yn y tri mis nesaf fel eu bod nhw yn gallu cynllunio.

Maen nhw'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i astudio patrymau'r tywydd. Ond tymereddau ar gyfartaledd yw'r darogan hyn. Felly er bod hi'n bosib y cawn ni dywydd poethach fe allai yna rhai wythnosau fod yn fwy oer hefyd. 

 


 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.