Carchar i ddynion am ddwyn metel werth bron i £1.2m o waith dur TATA
Mae tri o weithwyr Tata Steel UK wedi cael eu dedfrydu i garchar am gynllunio i ddwyn ingotau tun (tin ingots) oedd werth bron i £1.2 miliwn.
Fe wnaeth y gweithwyr Thomas Ashford (chwith uchod), Stuart Jones (dde uchod), a Richard Jones gynllunio i ddwyn tun o safle Trostre, gan ddefnyddio cerdyn diogelwch wedi’i glonio i gael mynediad at y nwyddau ar ôl iddyn nhw gyrraedd.
Cafodd Heddlu Dyfed-Powys wybod am y troseddau ym mis Hydref 2024, ar ôl i adroddiad gael eu gwneud am “ladrad ar raddfa fawr”.
Dywedodd y sawl oedd wedi cysylltu â’r heddlu fod blociau un neu ddwy dunnell ar goll erbyn y diwrnod canlynol bob tro roedd llwyth o'r ingotau tun wedi cyrraedd safle Tata Steel yn Nhrostre, Llanelli, dros y pum mis blaenorol.
Ar adeg yr adroddiad, roedd amcangyfrif bod y metel werth tua £500,000 wedi cael eu dwyn mewn 13 o ddigwyddiadau.
Roedd amheuaeth bod fan yn cael ei gyrru ar y safle gan ddefnyddio cerdyn diogelwch wedi’i glonio o dan yr enw David Davies yn gynnar yn y bore y diwrnod ar ôl i lwythi gyrraedd.
Roedd honiad bod y goruchwyliwr diogelwch Stuart Jones a’r goruchwyliwr tŷ castio Thomas Ashford yn caniatáu mynediad ac yn agor y warws, lle roedd un neu ddau floc o dun yn cael eu llwytho i’r fan gan ddefnyddio fforch godi.
Gwnaeth yr heddlu drefniadau i fonitro nwyddau a’r defnydd o gardiau mynediad ar y safle, ac am 05.31 ar 11 Hydref 2024 cafodd swyddogion wybod bod y cerdyn dan amheuaeth wedi cael ei ddefnyddio.
Gwelwyd fan yn mynd i mewn i’r safle, a chafodd ei stopio wrth iddi adael. Cafodd tunnell o ingotau tun, gwerth £30,000, ei darganfod y tu mewn.
Cafodd y gyrrwr nad oedd yn gweithio ar y safle, a gafodd ei enwi’n ddiweddarach fel Matthew Membury, ynghyd ag Ashford a Jones, eu harestio ar amheuaeth o gynllwynio i ddwyn.
Fe wnaeth ymchwiliad dan arweiniad CID ganfod, drwy CCTV ac ymchwiliadau ariannol a digidol, bod y lladradau’n cymryd rhwng tri ac 18 munud i’w cyflawni, a bod Ashford a Jones yn cyrraedd y gwaith yn gynnar ar y dyddiau dan sylw er mwyn hwyluso’r troseddau.
Daeth i’r amlwg hefyd fod y lladradau wedi bod yn digwydd ymhell cyn yr adroddiad cyntaf i’r heddlu, a’u bod wedi bod yn mynd rhagddyn nhw ers mis Gorffennaf 2023.
'Rhagweithiol'
Fe wnaeth swyddogion hefyd ddarganfod bod gweithiwr arall, Richard Jones, yn rhan o’r lladrata, ac nad oedd wedi mynd i’r gwaith ers i Membury, Ashford a Stuart Jones gael eu harestio.
Canfuwyd bod y dyn 39 oed wedi bod yn rhoi’r ingotau oedd i gael eu dwyn o’r neilltu, yn barod ar gyfer dyfodiad y fan oedd yn cael ei gyrru gan Membury, a'i fod wedi derbyn £62,000 am ei ran yn y cynllun.
Cafodd ei ganfod yn ei gartref yn Ceri Road, Abertawe, ym mis Ionawr 2025 a’i arestio ar amheuaeth o ddwyn.
Fe wnaeth ymchwiliadau ariannol ganfod mai cyfanswm yr elw a wnaed gan yr holl unigolion oedd wedi bod yn rhan o ddwyn yr holl fetel oedd £743,826.
Roedd yr ingotau’n cael eu toddi a’u gwerthu mewn iardiau sgrap ledled Cymru a Lloegr.
Cafodd y pedwar dyn eu cyhuddo o gynllwynio i ddwyn, ac fe wnaethon nhw gyfaddef i'r troseddau yn Llys y Goron Abertawe.
Cawsant y dedfrydau canlynol ddydd Mawrth, 2 Mehefin:
- Stuart Jones, 56 oed, o Maeswerdd, Llanelli: 40 mis yn y carchar
- Thomas Ashford, 36 oed, o St David’s Road, Rhydaman: 40 mis yn y carchar
- Richard Jones, 39 oed, o Ceri Road, Abertawe: dedfryd o 20 mis yn y carchar, wedi’i gohirio am ddwy flynedd
- Bydd Matthew Membury, 32 oed, o Cathan Close, Port Mead, yn cael ei ddedfrydu yn ddiweddarach.
Dywedodd y Ditectif Sarjant Jake Thomas, y swyddog ymchwilio yn yr achos: “Mae hyn yn enghraifft wych o waith rhagweithiol rhwng sawl adran, a arweiniodd at adnabod nifer o droseddwyr a gafodd eu dal wrth iddyn nhw gyflawni'r troseddau.
“Hoffwn ddiolch i bawb fu’n rhan o’r ymchwiliad hwn, yn ogystal â staff Tata Steel am eu cymorth wrth i ni gynnal ymholiadau.
“Rwy’n falch bod cyfiawnder wedi’i wneud yn dilyn cynllwyn hir a chymhleth, sydd wedi arwain at golled fawr i gwmni lleol ac adnabyddus.”