Sefyllfa ariannol fregus yn peryglu Eglwys Gadeiriol Tyddewi
Mae sefyllfa ariannol Eglwys Gadeiriol Tyddewi yn fregus, a’i dyfodol fel canolfan addoli o bwys hanesyddol mewn peryg.
Dyna gasgliad adroddiad newydd yn dilyn archwiliad o bob elfen o’r sefydliad a’i waith dan law yr Esgob, Y Gwir Barchedig Dorrien Davies.
Yn ôl casgliadau'r ddogfen, fe allai'r Eglwys fynd i'r wal yn ariannol a methdalu o fewn dwy flynedd os na fydd yna gynllun ariannol gwell yn ei le.
Mae'n dyfynnu un llygad dyst sydd yn dweud bod yna "ddiwylliant di-hid - drifftio, araf" mewn cysylltiad â materion ariannol.
Yn ôl yr Esgob, mae angen "gweithredu ar frys" er mwyn mynd i'r afael â'r "heriau" hyn os yw’r sefydliad yn mynd i barhau â’i rôl.
Nid yw’r sefyllfa ariannol bresennol yn gynaladwy, meddai.
Roedd yr Esgob wedi penderfynu cyflawni yr archwiliad gan ddweud gan mai’r tro diwethaf i hyn ddigwydd oedd 15 mlynedd yn ôl.
Ei bwrpas, meddai, yw i "gyfeirio ac i annog gweinyddiaeth ac i sicrhau ymateb ymarferol, cywir i anghenion mawr yr Eglwys".
Gor-wario
Yn y ddogfen, mae'n dweud bod yna or-wario wedi digwydd ers sawl blwyddyn gan olygu bod dim llawer o arian wrth gefn.
Mae'n dweud y byddai'r Eglwys mewn sefyllfa anodd os y byddai yna gostau annisgwyl.
"Mae diffygion anghyfyngedig wedi parhau ers saith mlynedd, gan erydu cronfeydd wrth gefn i lefel beryglus o isel a gadael y Gadeirlan yn agored i unrhyw gostau annisgwyl," meddai.
Mae'n dweud hefyd bod y bwriad i dynnu yn ôl cefnogaeth esgobaethol o £98,000 y flwyddyn erbyn diwedd 2026 yn bryderus.
Tra'n cydnabod bod yna gam positif wedi ei wneud wrth benodi Rheolwr Datblygu, does "dim tystiolaeth" meddai bod yna fwy o gyllid wedi ei sicrhau.
Mae yna angen am "strategaeth i godi arian" meddai'r adroddiad.
Ymysg yr argymhellion yn yr adroddiad, mae'r awduron yn galw am gomisiynu adolygiad ariannol annibynnol, datblygu strategaeth ariannol pum mlynedd erbyn Ebrill 2026, a chryfhau adrodd ariannol a gwneud penderfyniadau.
Dywedodd yr awduron bod hefyd angen gwella'r ymdriniaeth o arian parod a rheolaethau ariannol o fewn yr eglwys.
Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod yna amryw o sialensiau eraill, gan gynnwys arweinyddiaeth a materion yn gysylltiedig ag yswirio eitemau gwerthfawr yn llyfrgell y gadeirlan.
Llun: Google Maps