'Cyfle i agor allan': Tîm pêl-droed o'r gogledd yn ennill pencampwriaeth iechyd meddwl
'Cyfle i agor allan': Tîm pêl-droed o'r gogledd yn ennill pencampwriaeth iechyd meddwl
Mae tîm pêl-droed o'r gogledd wedi ennill pencampwriaeth iechyd meddwl yn erbyn timau ar draws Prydain.
Roedd Osian Jones, 26 oed, o Lanfairpwll ym Môn yn rhan o dîm MenTribe oedd yn cystadlu yn erbyn 41 o dimau eraill ym Mharc Goodison y penwythnos diwethaf.
Mae MenTribe yn grŵp yn y gogledd sydd yn ceisio gwella lles meddyliol a chorfforol dynion drwy weithgareddau awyr agored.
Eu nod yw i leihau unigrwydd mewn dynion ac i gryfhau cysylltiadau cymunedol.
Roedd tîm pêl-droed MenTribe yn un o 42 o dimau oedd yn cystadlu yn y gystadleuaeth chwe-bob-ochr ddydd Sadwrn diwethaf, gan ddod yn fuddugol yn erbyn timau ar draws Prydain.
Enw'r gystadleuaeth yw 'Cwpan y Byd Iechyd Meddwl', gyda phob tîm yn cael dewis gwlad i'w chynrychioli, ac fe wnaeth tîm MenTribe ddewis Cymru.
Fe lwyddodd y tîm i ennill pob un o'u gemau, ac Osian oedd chwaraewr y gystadleuaeth yn ogystal â'r un a sgoriodd y nifer fwyaf o goliau.
"O’dd y tournament i neud efo mental health so o’dd genna chdi lot o wahanol charities, dwi’n meddwl nathon nhw hel dros £111,000 i gyd a neith hynna helpu’r NHS, y mental health community lot," meddai Osian wrth Newyddion S4C.
"Dwi’n gobeithio neith o fynd yn bell iddyn nhw i gael helpu pobl allan a g’neud gwahaniaeth i bobl mewn bywyd."
Dywedodd Osian fod tîm MenTribe yn gyfle i ddynion anghofio am bryderon bywyd.
"Ma’ nhw’n chwara bob dydd Llun, awr a hanner ar gae Nantporth thymyl cae Bangor so be’ ‘dio rili ydi i hogia gael mynd yna i enjoio eu hunain am awr a hanner i anghofio am dan bywyd a gwaith a ‘ballu." meddai.
"Ma’ pawb efo’u problemau a ‘ballu so ma’n grêt cael gweld pobl yn cael ymlaen ag anghofio am dan problemau nhw am awr a hanner."
Mae'n hollbwysig i ddynion siarad am eu teimladau yn ôl Osian.
"Ma’n bwysig iawn i bobl cael actually siarad i bobl, even os ti’n ffonio mêt chdi fyny am ddau funud, gofyn sut ma’n nhw, dwi’n meddwl ma’n bwysig iawn achos ti’n gweld lot o bobl sydd yn stryglo a ‘sa chdi byth yn gallu deud bo’ nhw’n stryglo," meddai.
"Ma’ definitely yn bwysig bo’ ni’n edrych ar ôl ein hunain achos ti byth yn gw’bod be’ sy’n mynd i ddigwydd."
Ychwanegodd: "Dwi’n meddwl ma‘n bwysig bo’ pobl yn pigo ffôn i fyny neu even gofyn i fynd am beint efo nhw ‘chos ti’m yn dalld, ma’ hynna yn mynd i helpu nhw lot, ‘chos dwi’n meddwl bo’ pobl weithia yn meddwl bo’ nhw ben ei hun a dydyn nhw methu agor allan.
"Ma’n peth mawr agor allan, ma’ pobl yn trio bod yn gryf ond dwi’n meddwl y peth pwysicaf ydy bo’ pobl actually yn agor allan achos ma’ hynna yn gryfach na ddim deud dim byd, a neith neb byth regretio fo wedyn, ‘sa chdi’n teimlo lot mwy hapus efo dy hun."
Ag yntau yn bencampwr ei hun, mae pêl-droed yng ngwaed teulu Osian, wedi i'w dad, Martin, fod yn rhan o dîm Cymru wnaeth ennill Pencampwriaeth Pêl-droed dan Gerdded y Byd y llynedd.
"Dwi'n meddwl neith Dad probably ddeud fod un fo 'chydig bach yn well nag un fi ond ma'n braf fod o'n dal i gael chwarae yn ei oed o, ma'n dechra slofi ond ma'n braf bod y ddau ohona ni dal yn cyfrannu i bêl-droed," meddai.
Roedd yn rhaid i'r 42 tîm godi dros £1,000 er mwyn cystadlu yn y gystadleuaeth, ac mae Osian yn ddiolchgar iawn am gefnogaeth leol.
"Heblaw am y charities o gwmpas Ynys Môn, nathon nhw roi pres i ni allu chwarae yn y gystadleuaeth a hebdda nhw, fysa ni byth wedi gallu mynd so diolch iddyn nhw am y cyfle i gael chwarae ar gae Goodison Park," meddai.
Mae Osian yn annog unrhyw un sy'n awyddus i ymuno â'r tîm i gysylltu â nhw am fwy o wybodaeth.
"Os ma' rhywun isio dechra chwara efo'r tîm, yr unig beth ma' nhw angen neud ydi anfon neges ata ni a fysa nhw byth yn deud na," meddai.
"Dio'm byd i neud am hynna, mae o gyd i neud efo agor allan a cael pobl yn involved a helpu nhw allan."
