Dim ond hanner ffermwyr Cymru wedi ymuno â’r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd

Llyr Gruffydd

Dim ond hanner ffermwyr Cymru sydd wedi ymuno â'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy newydd a gyflwynwyd gan Lywodraeth Cymru, yn ôl y gweinidog sydd bellach yn gyfrifol am amaeth yng Nghymru.

Roedd y Gweinidog Cabinet dros Wydnwch Gwledig a Chynaliadwyedd newydd, Llŷr Gruffydd, yn siarad â rhaglen Ffermio mewn cyfweliad a fydd yn cael ei darlledu ddydd Llun.

Dywedodd bod y “ffigyrau cynnar” yn dangos bod “tua hanner” wedi dewis ymuno â’r cynllun ffermio cynaliadwy.

"Dyna nifer y ceisiadau - dydi o ddim o reidrwydd yn adlewyrchu faint o dir sydd wedi dod i mewn i’r cynllun,” meddai.

“Dwi’n meddwl bod pobl yn teimlo ansicrwydd ynglŷn â’r sefyllfa ariannol. Os chi ddim ond yn gallu cael sicrwydd 12 mis yna mae yna gwestiwn wrth gwrs a ddylai pobl fod yn cymryd y cam.

“Dwi’n deall y rhwystredigaeth yna ac eisiau gweithio gyda’r sector i weithio trwy rhai o’r rhwystrau.

“Roedd hyn eto yn un o’r pethau a drafodwyd gyda’r undebau - dywedwch chi wrthon ni beth oedd pobl yn ei ddweud wrth lenwi eu ffurflenni a pam eu bod nhw wedi peidio dod i mewn.”

'Trafodaeth'

Y nod yw bod y cynllun yn cymryd lle'r Taliad Sylfaenol, sydd wedi cael ei ddosbarthu gan y Llywodraeth ers 2021 a chyn hynny, gan yr Undeb Ewropeaidd.

Cafodd elfennau o’r cynllun presennol, a gyflwynwyd dros yr haf y llynedd, eu croesawu gan undebau ffermio, a hynny ar ôl i’r Llywodraeth Lafur flaenorol ddiwygio o’r cynnig gwreiddiol.

Roedd y cynnig blaenorol wedi’i feirniadu’n hallt ar ôl cynnwys amod y dylid pob fferm orchuddio o leiaf 10% o’r tir gyda choed.

Ychwanegodd Llŷr Gruffydd wrth raglen Ffermio: “Am gynllun newydd sbon dwi’n meddwl allwch chi edrych arno fo yn wydr hanner llawn neu’n wydr hanner gwag.

“Siwrne oedd hwn a doedden i ddim yn disgwyl i bawb ddod i mewn ar y diwrnod cynta’.

“Mae yna drafodaeth i’w chael ynglŷn â sut allwn ni gryfhau a gwella’r cynllun i annog pobl i ddod ar y siwrne yna - ac mae hwnna’n un o’r blaenoriaethau i fi fel gweinidog.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.