Mae dyn a gafodd ei arestio mewn cysylltiad â marwolaeth dyn 34 oed mewn tref yng Ngwynedd wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra bod ymchwiliadau’n parhau.
Dywedodd Heddlu'r Gogledd bod y dyn wedi marw yn dilyn digwyddiad yn y dŵr ar draeth Bermo ddydd Llun.
Mae ei deulu yn cael eu cefnogi gan swyddogion arbenigol, yn ôl y llu.
Mae dyn 24 oed o ardal Birmingham a gafodd ei arestio bellach wedi cael ei ryddhau ar fechnïaeth tra ei fod yn cynorthwyo'r heddlu gyda’u hymholiadau.
Mae swyddogion yn parhau i apelio ar dystion i ddod ymlaen.
Dywedodd y Prif Swyddog Ymchwilio, y Ditectif Uwcharolygydd Chris Bell: "Hoffwn ddiolch i holl aelodau’r cyhoedd a fu’n cynorthwyo’r dyn ar y traeth ddydd Llun, ac i bawb sydd wedi cysylltu â ni ers hynny.
"Rydym wedi cael ymateb cadarnhaol iawn gan y cyhoedd, sydd o gymorth mawr i’n hymholiadau.
"Rwy’n parhau i annog unrhyw un oedd ar draeth Bermo ddydd Llun 25 Mai ac a welodd y digwyddiad, ac nad ydynt eisoes wedi siarad â’r heddlu, i gysylltu â ni.
"Rwyf hefyd yn ail-apelio ar unrhyw un oedd ar y traeth rhwng 14.00 a 16.00 ac a gymerodd unrhyw luniau neu fideos i’w hanfon atom cyn gynted â phosib.
"Mae gennym ddiddordeb ym mhob llun neu fideo a gafodd ei dynnu ar unrhyw ran o’r traeth yn ystod y prynhawn.
"Gallai unrhyw ddelwedd fod yn berthnasol i’n hymchwiliad.
"Mae fy meddyliau’n parhau gyda theulu’r dyn ar yr adeg anodd hon."