Argyfwng diabetes Cymru yn cynyddu'n gyflymach na’r disgwyl

insulin diabetes

Mae nifer y bobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru yn cynyddu’n gyflymach na'r disgwyl, yn ôl ffigyrau newydd.

Mae’r data diweddaraf ar gyfer 2025 yn dangos bod 230,371 o bobl 17 oed a throsodd yng Nghymru yn byw gyda diabetes - cynnydd o 7,685 mewn blwyddyn.

Yn ôl rhagolygon blaenorol gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn 2021/22, roedd disgwyl i Gymru gyrraedd tua 260,000 o achosion erbyn 2035. 

Ond ar y gyfradd bresennol, mae arbenigwyr yn rhybuddio y gallai hynny ddigwydd yn llawer cynharach.

Mae amcangyfrifon yn nodi fod bron i 270,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chyn-diabetes ('pre-diabetes'), sy’n eu rhoi mewn perygl uchel iawn o ddatblygu’r cyflwr. 

Mae tua 59,000 arall yn debygol o fod â diabetes Math 2 ond heb gael diagnosis.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru bellach yn annog pobl i wirio eu risg o ddatblygu diabetes Math 2 ac i weithredu’n gynnar.

Un o bob pump

Yn ôl GIG Cymru, mae tua un o bob pump o oedolion yng Nghymru naill ai’n byw gyda diabetes neu cyn ddiabetes.

Diabetes Math 2 sy'n gyfrifol am y mwyafrif helaeth o achosion. Os na chaiff ei reoli’n briodol, gall arwain at gymhlethdodau difrifol gan gynnwys colli golwg, clefyd yr arennau, niwed i’r nerfau a chlefyd cardiofasgwlaidd.

Mae’r cyflwr yn fwy cyffredin mewn ardaloedd sydd dan fwy o bwysau economaidd a chymdeithasol, ac ymhlith rhai cymunedau ethnig, gan gynnwys pobl o gefndiroedd De Asiaidd, Du Affricanaidd a Du Caribïaidd.

Ond mae arbenigwyr yn pwysleisio bod modd atal llawer o achosion o ddiabetes Math 2 drwy weithredu’n gynnar.

Cafodd Alex Hicks o Gaerdydd ddiagnosis o diabetes Math 2 yn ei 30au cynnar.

Ar ôl newid ei ddeiet ac ymarfer corff yn rheolaidd, llwyddodd i reoli ei gyflwr am flynyddoedd heb feddyginiaeth. Ond dywedodd iddo wynebu heriau newydd yn ystod pandemig Covid wrth iddo weithio o adref.

"Cyn i mi sylweddoli, roedd rhai o'r symptomau wedi dychwelyd, felly roeddwn i'n ofni'r gwaethaf," meddai.

"Ar ôl ymweliad â'r Meddyg Teulu a phrawf gwaed, dangosodd fod fy siwgr gwaed yn uchel eto."

Dywedodd Mr Hicks ei fod wedi "gwadu’r sefyllfa" i ddechrau oherwydd ei fod yn "siomedig" ar ôl rheoli ei gyflwr am dros ddegawd, ond fe ymunodd â chynllun newydd i'w reoli a dechrau eto ar feddyginiaeth.

Fe aeth ymlaen i ddweud fod rhaglenni cymorth a chyngor dietegol wedi ei helpu i golli pwysau a dod oddi ar ei feddyginiaeth unwaith eto.

"Mae cael cefnogaeth gan y rhaglen Counterweight a'i hyfforddwr wedi gwneud gwahaniaeth mawr o ran cynnal ffordd iach o fyw," meddai.

"Rydw i wedi dal i allu cymryd rhan mewn teithiau beicio elusennol ac mae fy mhrawf gwaed diwethaf wedi fy nghael yn ôl i'r lefel arferol - sy'n wych."   

Image
Dr Sarah Davies
Dr Sarah Davies, Cyfarwyddwr Clinigol ar gyfer Diabetes mewn Gofal Sylfaenol 

Yn ôl un meddyg teulu o Gaerdydd, mae cynnydd arbennig mewn achosion o diabetes ymhlith pobl o dan 40 oed.

Dywedodd Dr Sarah Davies bod diabetes math 2 yn fwy cyffredin mewn pobl sydd â hanes teuluol cryf o'r cyflwr, mewn pobl sydd dros bwysau, neu’n byw gyda gordewdra neu bwysedd gwaed uchel.  

"Os gallwn ni gefnogi pobl i ddeall eu risg o ddatblygu diabetes math 2 a sut y gallant gymryd camau i'w leihau, gallwn ni wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau a hefyd leihau'r effaith ar y system gofal iechyd," meddai.

Dywedodd David Taylor o Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy'n arwain y rhaglen Mynd i’r Afael â Diabetes Gyda’n Gilydd, fod y cynnydd cyflym yn nifer y bobl sydd yn cael diagnosis o ddiabetes Math 2 yn "argyfwng cenedlaethol i Gymru".

"Nid yw cael diagnosis o ddiabetes Math 2 byth yn fai ar yr unigolyn," meddai.

"Ond yn aml, pe bai’r unigolyn hwnnw wedi cael mynediad at yr wybodaeth gywir ac wedi cael y gefnogaeth oedd ei hangen arno’n ddigon cynnar, yna mae lleihau ei risg, gohirio ei ddiagnosis neu leihau cymhlethdodau yn y dyfodol os bydd yn cael ei ddiagnosio, i gyd yn bosibiliadau real iawn."

Ychwanegodd fod hyd yn oed newidiadau bach i ffordd o fyw yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr.

"Gall rhywbeth mor syml â cherdded am 10 munud ar ôl prydau bwyd helpu," meddai.

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Diabetes UK Cymru yn annog pobl i fynd i wefan Diabetes UK i asesu eu risg o ddatblygu’r cyflwr.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.