Gweinidog Ynni: ‘Dim lle i beilonau’ ar gyfer cysylltiadau trydan newydd yng Nghymru
Gweinidog Ynni: ‘Dim lle i beilonau’ ar gyfer cysylltiadau trydan newydd yng Nghymru
Mae'r Gweinidog Cabinet newydd ar gyfer Ynni wedi mynnu y bydd ei blaid yn cadw at ei hymrwymiad i wrthod caniatâd ar gyfer peilonau dur ar gysylltiadau trydan newydd sydd dan eu rheolaeth nhw.
Mewn cyfweliad â Newyddion S4C, dywedodd Adam Price bod y maniffesto yn "hollol eglur" gan ei fod e'n fater o "bwys mawr i etholwyr" mewn sawl rhan o Gymru.
Yn ôl Mr Price, mae ei blaid yn cefnogi tanddaearu cysylltiadau newydd ar y rhwydwaith ddosbarthu, neu ddefnyddio polion pren ble nad yw hynny yn bosib.
Dywedodd bod ei blaid yn "glir iawn" o blaid tanddaearu a bod yna "ddim lle o gwbl ar gyfer peilonau o fewn llinellau newydd yn dosbarthu, ble i ni'n rheoli."
Llywodraeth Cymru sydd yn gyfrifol am benderfyniadau cynllunio sydd yn ymwneud gyda llinellau newydd sydd yn cludo hyd at 132kv o drydan. Mae llinellau foltedd uchel yn fater i lywodraeth y Deyrnas Unedig.
"Ni'n derbyn mewn rhai rhannau bydd rhaid cael eithriadau o ran tanddaearu, nid ar gyfer peilonau, s’dim lle ar eu cyfer nhw ar linellau newydd, ond ble mae yna eithriadau, polion pren neu is-adeiledd tebyg i hynny," meddai Adam Price.
"Roedd y maniffesto yn hollol glir ac yn gadarn ar y pwynt yma. O fewn y pwerau sydd gyda ni, does yna ddim lle ar gyfer peilonau.
"Fydd yna ddim peilonau ar linellau dosbarthu newydd o fewn Cymru sydd yn rhan o'n penderfyniad ni."
Roedd y Llywodraeth Lafur flaenorol o blaid gosod ceblau dan ddaear ond bod angen cymryd “safbwynt cytbwys o ran costau, a allai olygu bod prosiectau a fyddai’n dderbyniol fel arall, yn anhyfyw".
Dywedodd cwmni Green Gen Cymru, sydd am ddatblygu nifer o gysylltiadau newydd o'r canolbarth ei bod nhw am gydweithio mewn "ffordd adeiladol" gyda'r llywodraeth newydd.
'Becso pobl'
Mae yna ymgyrchu mawr wedi bod yn erbyn rhywdwaith posib o beilonau yn Nyffryn Tywi, o fferm wynt arfaethedig Bute Energy yn Nant Mithill ym Mhowys i is-orsaf newydd yn Llandyfaelog ger Caerfyrddin.
Mae Angharad Thomas yn rhedeg safle twristiaeth Castell Carreg Cennen gyda'i theulu ger pentref Trap. Er nad yw llwybr y peilonau yn agos at y castell hynafol, mae hi'n gwrthwynebu codi peilonau yn yr ardal, ac mae'n dweud mai dyma oedd y pwnc pwysicaf iddi yn ystod ymgyrch Senedd Cymru.
"Mae'n hynod o bwysig," meddai. "Mae'r peth hyn wedi bod yn becso pobl yr ardal 'ma am amser maith, i fod y onest.
"Roedd e'n neis i gael dewis ein hunain ar ba barti oedd yn mynd mewn i'r senedd, a pha barti oedd yn mynd i sefyll lan amdano ni, ac am ein gwlad ni.
"Fi'n gorfod gweud mae dyma oedd y tro cyntaf i fi ddarlen pob maniffesto i weld yn union beth oedd pawb yn mynd i wneud!
"Roedd e'n bwysig uffernol rownd ffor hyn.
"Mae Plaid Cymru wedi addo bod nhw ddim i mynd i adael nhw i ddefnyddio peilonau ac mae hwnna yn beth gwych a ni jyst yn gobeithio bod nhw'n mynd i aros i beth maen nhw wedi dweud.
"Ni'n gobeithio y byddan nhw yn ddigon dewr a sefyll lan a ddim yn mynd i gael eu perswadio gan y cwmniau 'ma."
Fe awgrymodd adroddiad i Lywodraeth Cymru gan banel o arbenigwyr annibynnol ar ddechrau'r flwyddyn bod y gost o osod ceblau trydan dan ddaear tua 2.2 i 2.8 gwaith yn ddrytach na defnyddio peilonau.
Mae Angharad Thomas yn mynnu dylai unrhyw gysylltiadau newydd fod o dan ddaear yn hytrach nac ar beilonau.
"Mae bywyd fi wastad wedi bod o gwmpas twristiaeth," meddai.
"Mae pobl yn dod i'r ardal yma achos beth sydd gyda ni. Mae pobl o dros y byd i gyd yn dod yma achos mae gwlad ni mor anhygoel o bert.
"Bydd e'n cael effaith ofnadwy ar yr ardal 'ma. Mae'n rhaid iddo fynd dan ddaear. Dyna beth maen nhw yn gwneud yn Ewrop."
'Croesawu'
Mae cwmni Green Gen Cymru yn bwriadu datblygu cysylltiadau newydd o ffermydd gwynt newydd ym Mhowys a Cheredigion gan ddefnyddio peilonau i gludo trydan i is-orsaf newydd yn Llandyfaelog.
Roedd Newyddion S4C yn awyddus i holi cynrychiolydd ynglyn a sylwadau'r Gweinidog newydd, ond doedd neb ar gael. Mewn datganiad, dywedodd Green Gen Cymru:
"Rydym fel cwmni yn awyddus i ddatgloi potensial ynni cenedlaethol Cymru. Ein bwriad yw creu rhwydweithiau sydd yn gweithredu yn y ffyrdd mwyaf effeithlon ac economaidd i gwsmeriaid a chymunedau yng Nghymru.
"Rydym yn croesawu'r cyfle i gydweithio yn adeiladol gyda llywodraeth newydd Cymru wrth iddi ddatblygu strategaeth ynni a fframwaith polisi i Gymru.
"Mae hyn yn cynnwys cydweithio ar is-adeiledd y grid er mwyn cydbwyso ystyriaethau ar effaith amgylcheddol, cost ac ymarferoldeb, a sicrhau bod yna gysylltiad amserol gyda ffynonellau newydd o ynni.
"Rydym yn edrych ymlaen at gyfrannu tystiolaeth a gwybodaeth wrth i'r polisiau hyn gael eu datblygu."
Dywedodd NESO, y Gweithredwr System Ynni Genedlaethol ei bod nhw yn "ystyried cymunedau a'r amgylchedd" wrth bwyso a mesur cynlluniau cwmniau.
Yn ôl Angharad Thomas, fe fydd ymgyrchwyr yn cadw golwg barcud ar weithredoedd y llywodraeth newydd yng Nghaerdydd.
"Fi a lot o bobl eraill. Fi'n credu os mae Plaid yn newid meddwl, neu baco lawr, bydd e'n political suicide."