Prisiau ynni i godi dros £200 wrth i ryfel Iran frathu
Bydd prisiau ynni yn codi ym mis Gorffennaf 13% ar gyfartaledd wrth i'r rhyfel yn y Dwyrain Canol gael effaith am y tro cyntaf ar filiau pobl.
Yn ôl y rheoleiddiwr ynni Ofgem bydd cartref cyffredin sydd yn defnyddio trydan a nwy yn talu £221 yn fwy'r flwyddyn. Bydd y bil blynyddol ar gyfartaledd yn £1,862.
Mae'r cap yn mynd i effeithio ar filiynau o gartrefi sydd gyda thariffau amrywiol ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban. Fe allai godi hyd yn oed yn fwy yn ystod misoedd y gaeaf os na fydd yna ddatrysiad i'r rhyfel rhwng Iran ac America ac Israel.
Mae'r rhyfel wedi effeithio ar brisiau ynni am fod Iran wedi gosod blocâd ar gulfor Hormuz ers dechrau'r gwrthdaro ym mis Chwefror.
Mae 20% o olew a nwy naturiol hylifedig y byd fel arfer yn mynd drwy’r culfor.