Galw am gyflwyno system drwyddedu ar gyfer saethu adar hela
Mae elusen gwarchod adar yng Nghymru yn galw am gyflwyno system drwyddedu ar gyfer saethu adar hela yn y DU.
Daw'r alwad gan RSPB Cymru ar ôl i adroddiad newydd nodi fod 60 o adar ysglyfaethus wedi cael eu lladd yn anghyfreithlon yng Nghymru rhwng 2014 a 2024.
Mae adar ysglyfaethus yn cael eu gwarchod o dan gyfreithiau’r DU ers dros 60 mlynedd. Ond mae'r adroddiad Patterns of Persecution wedi nodi eu bod yn parhau i gael eu targedu a’u lladd yn anghyfreithlon.
Dywedodd yr elusen mai dim ond rhan fach o’r troseddau gwirioneddol yw’r ffigwr hwn, gan fod nifer o achosion yn digwydd mewn ardaloedd anghysbell.
Roedd tua thraean o’r digwyddiadau ym Mhowys, gyda gwenwyno yn gyfrifol am dros hanner yr achosion a saethu yn gyfrifol am draean arall.
Y Bwncath, y Barcud Coch a’r Hebog Tramor oedd y rhywogaethau a gafodd eu targedu fwyaf.
Yn ôl RSPB Cymru, mae 'na gysylltiad cryf rhwng lladd adar ysglyfaethus a thir sy’n cael ei reoli ar gyfer saethu adar hela. Mae 40% o’r achosion yng Nghymru yn gysylltiedig ag ystadau saethu.
Mae'r elusen yn honni bod nifer o adar ysglyfaethus yn cael eu lladd yn anghyfreithlon, er mwyn atal unrhyw risg i'r stoc adar hela.
Er gwaethaf cannoedd o achosion ar draws y DU yn ystod y blynyddoedd diwethaf, dim ond 24 o bobl sydd wedi’u cael yn euog o droseddau yn ymwneud â lladd adar ysglyfaethus rhwng 2015 a 2024. Doedd dim euogfarnau yng Nghymru yn y cyfnod hwn.
Mae RSPB Cymru bellach yn galw am gyflwyno system drwyddedu ar gyfer saethu adar hela er mwyn helpu i ddiogelu adar ysglyfaethus.
Dywedodd Julian Hughes, Pennaeth Rhywogaethau RSPB Cymru: "Mae'r patrymau sy’n amlwg yn yr adroddiad newydd hwn am synnu llawer o bobl yng Nghymru, lle mae lladd adar ysglyfaethus yn anghyfreithlon yn staen ar adferiad rhywogaethau eiconig fel y Barcud Coch a'r Boda Tinwyn.
"Mae gan Lywodraeth newydd Cymru gyfle pwerus i anfon neges glir na fydd yn goddef troseddwyr sy'n rhoi bywyd gwyllt mewn perygl, wrth i ni alw arni i drwyddedu rhyddhau adar hela anfrodorol fel yr argymhellwyd gan Gyfoeth Naturiol Cymru."
Mae Newyddion S4C wedi gwneud cais am ymateb gan Lywodraeth Cymru.