Gofod newydd yn Eisteddfod yr Urdd yn cynnig 'man diogel i bobl ag anghenion dysgu'
Gofod newydd yn Eisteddfod yr Urdd yn cynnig 'man diogel i bobl ag anghenion dysgu'
Mae gofod newydd ar faes Eisteddfod yr Urdd eleni yn cynnig "man diogel i bobl ifanc ac oedolion ag anableddau dysgu" yn ôl un sydd wedi cael profiad yno.
Mae Sioned Williams yn gweithio fel Swyddog Datblygu a Chynllunio i brosiect Gogledd Cymru Gyda'n Gilydd, sef prosiect yn ceisio trawsnewid gwasanaethau anabledd dysgu yng ngogledd Cymru.
Mae gan Sioned hefyd fab 16 oed o'r enw Ifan sydd ag anabledd dysgu.
Dywedodd Sioned wrth Newyddion S4C: "Ma’r Babell Piws yn gyffrous iawn eleni, yn newydd ar Faes Eisteddfod yr Urdd a’r syniad tu ôl i’r Babell Piws ydi bod o’n fan sydd yn fan saff, diogel, tawel i bobl ifanc ac oedolion efo anableddau dysgu ddod yma os ‘dyn nhw isio amser i ffwrdd o brysurdeb y Maes yr Urdd.
"Mae o'n le diogel a saff iddyn nhw ddod yma ac i gael amser tawel i ffwrdd o’r prysurdeb."
Ychwanegodd Sioned ei bod hi'n falch fod y gofod yn gallu cynnig man diogel i'w mab, Ifan.
"Dwi’n bersonol efo profiad byw hefyd achos ma’ gen i fab, dwi’n falch iawn ohono o’r enw Ifan sydd hefo anabledd dysgu, felly croeso cynnes i bawb ddod i ymuno hefo ni," meddai.
"Mae o’n dda gweld yr Urdd yn croesawu pabell fel hyn yma. Dwi’n meddwl yn 2026, ‘dan ni angen bod yn gymdeithas sy’n gynhwysol i bawb.
"Dyna dwi’n meddwl sy’n hynod o bwysig i ni, ydi bo’ ni‘n fan sy’n gynhwysol i bawb a bod o’n croesawu pobl efo anableddau dysgu ag anghenion ychwanegol i Faes yr Urdd."
Ac mae Ifan yn hoff iawn o'r babell.
"Mae o’n le da i bobl chillio a cael help hefyd," meddai.
Mae Sioned yn ddiolchgar iawn i'r Urdd am y cyfle i gael bod ar y Maes.
"Ma' Ifan wedi bod yn dod i'r Urdd ers yn hogyn ifanc iawn. Mae o wedi bod yn cystadlu yn yr Urdd, wedi mynd i Glan Llyn tu allan i'r ysgol efo'r Urdd," meddai.
"Diolch ein bod ni'n cael pabell gynhwysol i Ifan sydd ag anableddau dysgu felly diolch i'r Urdd am adael i ni fod yma."
Davina Carey-Evans yw sylfaenydd Piws, ac mae'n falch iawn fod yr Urdd wedi rhoi'r cyfle i gyflwyno'r babell ar y maes eleni.
Mae Piws yn sefydliad sy’n gweithio i wella bywydau teuluoedd â phlant ac oedolion ifanc anabl.
"Ma’n bwysig ‘dan ni gyd yn byw efo’n gilydd a ma’n rhaid i ni feddwl am dan y pobl yma hefyd, a dyna pam ‘dan ni yma heddiw ’ma, a ma’n bwysig i ni gyd i drio dysgu be raid i ni neud i neud Cymru yn well i pawb," meddai Davina wrth Newyddion S4C.