Rhai o drigolion y Rhondda yn cael rhoi'r gorau i ferwi eu dŵr
25/05/2026Mae hysbysiad i ferwi dŵr bellach wedi cael ei godi ar unwaith ar gyfer rhai cymunedau yn y Rhondda.
Roedd Dŵr Cymru wedi darganfod problem ddydd Gwener gyda'r broses gemegol roedden nhw’n yn ei defnyddio i drin dŵr yfed yng Ngorsaf Trin Dŵr Maerdy.
Mewn datganiad dywedodd y cwmni bod trigolion Penrhys, Maerdy, Blaenllechau, Pontygwaith, Stanleytown, Pendyrus, Glynrhedynog, Pentre, Aberllechau, Ynyshir, Ystrad bellach yn cael yfed eu dŵr tap.
Roedden nhw'n anelu i godi’r rhybudd berwi dŵr am 18.00 ar ddydd Mawrth, 26 Mai yn Trehafod, Llwyncelyn, Graig, Treforest, Pwllgwaun, Trehopcyn, a Phontypridd.
Roedden nhw'n anelu i godi’r rhybudd berwi dŵr am 18.00 ar ddydd Mercher, 27 Mai yn Trebanog, Tonyrefail, Penrhiwfer, Cymmer, Trewiliam, Porth, Tonypandy, Glynfach.
Dywedodd Prif Swyddog Gweithrediadau Dŵr Cymru, Steve Wilson: “Rydym yn codi’r rhybudd berwi dŵr gam wrth gam fel y gellir tynnu cyfyngiadau cyn gynted ag y bo'n ddiogel ar ran o'r rhwydwaith, yn hytrach na disgwyl i bob ardal glirio ar yr un pryd.
“Mae dŵr yn symud yn raddol drwy'r rhwydwaith, yn bennaf drwy rym disgyrchiant, gan olygu fod rhai cymunedau yn derbyn dŵr newydd sydd wedi ei drin cyn ardaloedd eraill.
“Cyn codi'r rhybudd mewn unrhyw ardal, rydym yn cynnal samplu, yn profi ac yn fflysio’r rhwydwaith yn helaeth i sicrhau bod ansawdd y dŵr yn cyrraedd y safonau uchel y mae ein cwsmeriaid yn eu disgwyl. Mae diogelu iechyd y cyhoedd yn flaenoriaeth i ni drwy'r digwyddiad yma a byddwn yn parhau i ddiweddaru'r cwsmeriaid wrth i'r broses fynd yn ei flaen.
“Bydd ein gorsafoedd dŵr potel ar agor cyn hired a bo'r angen ac rydym am ddiolch i'r cwsmeriaid am eu goddefgarwch a'u dealltwriaeth. Rydym yn cydnabod yr anghyfleustra sylweddol y mae'r digwyddiad hwn wedi'i achosi, yn enwedig yn ystod y cyfnod presennol o dywydd poeth, ac rydym yn ymddiheuro am yr effaith ar gwsmeriaid.”