Cyhoeddi tîm merched Cymru fydd yn herio Kazakhstan ac Estonia

NS4C

Mae rheolwr tîm merched Cymru, Gemma Grainger wedi dewis carfan o 26 chwaraewr ar gyfer gemau agoriadol Cymru yn ymgyrch Cwpan y Byd FIFA Merched 2023 yn erbyn Kazakhstan ac Estonia.

Gyda charfan lawn ar gael, mae Grainger yn croesawu nôl Ceri Holland a gollodd allan ar y gêm ddiwethaf yn erbyn yr Alban ym mis Mehefin. Mae chwaraewr canol cae Caerlŷr, Hannah Cain, wedi cael ei galwad gyntaf i’r garfan, ar ôl cynrychioli y tro diwethaf i’r tîm D17 nôl yn 2014.

Ni fydd Maria Francis-Jones a Bethan Roberts yn rhan o’r garfan, ar ôl iddyn nhw gael eu dewis i fod yn rhan o’r garfan D19 a fydd yn wynebu Gogledd Iwerddon mewn dwy gêm gyfeillgar wythnos nesaf.

Bydd Cymru yn dechrau’r ymgyrch yn erbyn Kazakhstan ym Mharc y Scarlets ddydd Gwener Medi 17 gyda’r gic gyntaf am 19:15, cyn teithio i Parnu i wynebu Estonia ddydd Mawrth Medi 21.

Y gêm yn erbyn Kazakhstan fydd y tro cyntaf i’r tîm chwarae o flaen torf ers cyn pandemig COVID-19.

Y garfan: Laura O’Sullvian; Poppy Soper; Hayley Ladd; Gemma Evans; Rhiannon Roberts; Esther Morgan, Rachel Rowe; Lily Woodham; Sophie Ingle; Anne Fibley; Angharad James; Joise Green; Charlie Estcourt; jess Fishlock; Carrie Jones; Chloe Williams; Ffion Morgan; Megan Wynne; Hannah Cain; Ceri Holland; Kayleigh Green; Helen Ward; Elise Hughes; Georgia Walters.

Llun: FAW