'Planhigion chwyldroadol': Rhys Mwyn yn cyflwyno eitemau o'i yrfa i Amgueddfa Cymru

'Planhigion chwyldroadol': Rhys Mwyn yn cyflwyno eitemau o'i yrfa i Amgueddfa Cymru

Mae'r cerddor a'r cyflwynydd Rhys Mwyn wedi cyflwyno eitemau o'i gasgliad personol o'i gyfnod fel un o sêr y sîn pync yng Nghymru i ofal Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan.

Yn rhan o'r casgliad mae ei gitâr bâs a'r siaced ledr roedd yn ei gwisgo fel rhan o'r grŵp Yr Anhrefn.

Mae Rhys yn adnabyddus fel cyn-aelod o'r grŵp roc-pync, yn ogystal â chael ei adnabod am ei waith fel archeolegydd, a chyflwynydd radio ar BBC Radio Cymru.

Wrth iddo drosglwyddo'r eitemau i'r amgueddfa, dywedodd wrth Newyddion S4C eu bod nhw'n "rhan o newid cymdeithasol, diwylliannol."

“Ma’ ‘na ddau rhan i’r archif dwi ‘di rhoid, sef Anhrefn a Hen Wlad Fy Mamau, y ddau prosiect cerddorol.

“Mae bass o'n i'n chwarae efo Anhrefn, dwi'n cyfeirio at y bass fel fy chariot Celtaidd - o’dd o’n offeryn cerddorol oedd, ond o’dd o hefyd yn arf.

“Pan o’n i’n gafael yn y gitâr, o’na rhywbeth yn digwydd.

“Ma’ stwff yma yn stwff sydd yn rhan o newid cymdeithasol, diwylliannol.

“Mewn ffordd o’dd o’n naturiol wedyn i’r gwrthrychau materol, sef y lwmpyn o bren sydd yn bass guitar, y darn o ledr sydd yn siaced, ma’ Sain Ffagan a’r Amgueddfa Gen fysa’r lle i reiny."

Image
Tri finyl a'r gitâr bas sydd wedi eu rhoi i'r amgueddfa
Tri finyl a'r gitâr bas sydd wedi eu rhoi i'r amgueddfa

Yn 1987, daeth Anhrefn y band Cymraeg cyntaf i arwyddo cytundeb â chwmni recordio rhyngwladol a recordio dau albwm, Defaid, Skateboards & Wellies a Bwrw Cwrw.

Wrth i'r band chwarae gigiau mewn dinasoedd fel Berlin a Prague, mae Rhys Mwyn yn cofio annog pobl yn y dorf i daflu cwrw dros ei gilydd, yn unol ag enw'r albwm Bwrw Cwrw.

“Fyswn i’n dweud bod Bwrw Cwrw yn draddodiad o daflud cwrw ar bein ein gilydd pan odda ni’n cael hwyl.

“Ag odda ni’n cael pobl tramor i wneud hyn, nonsens llwyr ynde?

“Felly o’n ni’n cael pobl yn Prague, yn y gig, yn taflu cwrw i pob man.”

'Y Swyddfa'

Un o eitemau mwyaf enwog Rhys Mwyn yw ei siaced ledr, neu'r "swyddfa" fel roedd aelodau'r band yn ei galw.

Fe gafodd y siaced ei henw gan fod yr arian roedd y band yn ei ennill o wneud gigs a chytundebau gwahanol yn cael ei gadw mewn poced yn y siaced.

“Odda ni’n galw hwn yn swyddfa achos o’dd y contracts, y pres, fees odda ni’n gael am y gigs i gyd yn hwnna," meddai.

“Pan odda ni’n canu o’n i’n gorfod tynnu’r jacket pan odda ni ar stage, cuddiad o tu cefn y ramps fel bod neb yn dwyn y pres.

"Sa' ti ddim yn coelio mai dyna fel oedd hi, achos doedd na ddim bancio digidol adeg hynny."

Bu bron i Rhys golli'r siaced gyda thua 20,000 Deutsche Mark, sydd yn cyfateb i tua €21,000 heddiw, pan adawodd y siaced mewn caffi yn yr Almaen.

"Nes i fynd a'r band fyny tŵr y gadeirlan yn Koln, a nes i gyrraedd top y tŵr, edrych i lawr ar y piaza a gweld y jacket.

"Roedd yr holl bres, tua 20,000 Deutsche Mark yn y jacket. Dwi erioed 'di dod i lawr tŵr mor ffast.

"Ond da 'di pobl yr Almaen, o'dd pawb 'di gadael llonydd ag oedd y jacket dal yna."

Image
Siaced ledr oedd yn gwneud swydd y swyddfa i Anhrefn
Siaced ledr oedd yn gwneud swydd y swyddfa i Anhrefn

Yn dilyn dyddiau'r Anhrefn, dechreuodd Rhys Mwyn weithio ar ei ben ei hun fel rheolwr a hyrwyddwr bandiau ar ran label Crai, gan arwyddo Catatonia a rhyddhau dau EP, For Tinkerbell yn 1993 a Hooked yn 1994, ychydig cyn i Catatonia arwyddo cytundeb gyda Warner Brothers.

Bydd yr eitemau'n rhan o gasgliad bywyd diwylliannol Amgueddfa Cymru Sain Ffagan.

Gobaith Rhys Mwyn yw bod modd i bobl ddysgu o'r casgliad ac ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o sêr y sîn gerddoriaeth yng Nghymru.

“Mae o’n gyfuniad o ddeall dy hanes os dio’n bosib i ti gael dy ysbrydoli gin dy hanes, ond hefyd y dyfodol di’r peth pwysig yn de?" meddai.

“Ond wyt ti ddim isho’r dyfodol sydd yn ailadrodd bob dim achos bod nhw heb wrando.

“‘Dan ni ’di cyrraedd y pwynt rŵan ‘nai byth wisgo’r jacket ‘na eto, ‘nai byth chwarae’r bass ‘na eto.

“Ond, os oes ‘na unrhyw werth ar ôl, ma’ ‘na fodd i bobl ddysgu ohonyn nhw.

“‘Dan ni ’di caniatáu rŵan i greadigrwydd Cymraeg a Chymreig gael y rhyddid ‘na.”

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.