Newyddion S4C

Galw am fwy o arbenigwyr ar gyfer cleifion endometriosis

Newyddion S4C 08/09/2021

Galw am fwy o arbenigwyr ar gyfer cleifion endometriosis

Mae ymgyrchwyr sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth am y cyflwr endometriosis wedi cyhuddo Llywodraeth Cymru o beidio gwneud digon i helpu merched sy’n dioddef gyda’r cyflwr.

Drwy ddeiseb, maen nhw’n galw am fwy o arbenigwyr gan fod cleifion yn y gogledd yn gorfod mynd dros y ffin i gael triniaeth.

Dywed Llywodraeth Cymru ei fod yn hanfodol fod byrddau iechyd yn darparu diagnosis a thriniaeth effeithiol ar gyfer rheoli endometriosis.

Bu bron i Anna Cooper farw oherwydd cam-ddeiaganosis endometriosis. Yn 28 oed, mae hi wedi byw gydag endometriosis ers iddi fod yn 11 oed. Wedi 13 o lawdriniaethau, fe fydd hi’n cael triniaeth i godi’r groth cyn hir, am nad ydi hi’n teimlo fod ganddi ddewis arall.

Mae Anna yn fam falch, ond mae hi mewn poen parhaus, ac mae’n defnyddio morffin pob dydd i leddfu’r poen. Er bod endometriosis yr un mor gyffredin â diabetes, mae cael diagnosis yn frwydr i lawer sy’n dioddef.

Dywedodd Anna wrth raglen Newyddion S4C: “Dwi’m yn gallu wneud pethe efo merch fi, achos dwi’n sâl.

“Dwi’m yn gallu mynd ar y llawr a chwarae efo hi, dwi’m yn gallu mynd lawr slides, allai ddim mynd i’r parc a rhedeg o gwmpas achos dwi mor sâl”.

 Yng Nghymru un uned arbenigol sydd ar gael, ac mae honno yng Nghaerdydd. Mae merched y gogledd a’r canolbarth yn cael eu cyfeirio at glinigau yn Lerpwl.

Drwy ddeiseb, mae ymgyrchwyr fel Anna yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar frys.

Ychwanegodd Anna Cooper: “Ni angen cymryd o’n really serious, achos mae’n effeithio gymaint o bobl. 1/10 nawr yng Nghymru a Lloegr. Does 'na ddim digon o ymwybyddiaeth amdano fo”.

Yn ôl Llywodraeth Cymru mae gan fyrddau iechyd “gyfrifoldeb i ddarparu gwasanaethau gynaecoleg o ansawdd uchel ac mae'n hanfodol eu bod yn darparu diagnosis a thriniaeth effeithiol ar gyfer rheoli endometriosis.”

Dywedodd llefarydd:” Yn dilyn argymhellion adroddiad 2018, fe wnaethom sefydlu Grŵp Gweithredu Iechyd Menywod (WHIG). Mae'r WHIG yn gweithio gyda byrddau iechyd i sicrhau bod llwybr cymorth a thriniaeth gwell yn cael ei ddatblygu a'i weithredu gan gynnwys ffisiotherapi, rheoli poen, cymorth iechyd meddwl a llawfeddygaeth pan fo angen ar gyfer menywod ag endometriosis yng Nghymru.

“Mae WHIG yn darparu cyllid ar gyfer darparu cymorth endometriosis ychwanegol ym mhob bwrdd iechyd.

“Mae hyn yn cynnwys datblygu a chydlynu deunydd addysgol i gynorthwyo pobl ifanc i ddeall iechyd a lles mislif. Mae hefyd yn gweithio gyda meddygon teulu a thimau Gofal Sylfaenol i sicrhau lefelau ymwybyddiaeth well o'r symptomau a'r gefnogaeth briodol sydd ar gael yn unol â chanllawiau NICE. "

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.