Môn: Plas Newydd i arddangos gwisgoedd y ffilm Madfabulous

Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
mad fab.jpg

Bydd Plas Newydd ym Môn yn arddangsos gwisgoedd y ffilm Madfabulous, sef ffilm a gafodd ei hysbrydoli gan fywyd Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Môn.

Cafodd ystafell ‘Gwisgo’n Ffansi’ ei hagor ddydd Gwener, gan arddangos pump o wisgoedd trawiadol a ddefnyddiwyd yn y ffilm.

Bydd y ffilm yn cael ei rhyddhau ar 5 Mehefin. 

Cafodd Madfabulous ei ffilmio yn Nhŷ a Gardd Plas Newydd yn ystod mis Medi 2024, gyda golygfeydd allanol yn cael eu ffimio ar draws y lawntiau, y tŷ a’r Fenai.

Ffilmiwyd golygfeydd mewnol yn y Cyntedd Gothig a’r Neuadd Gothig, a hefyd mewn lleoliadau eraill yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys Castell a Gardd Penrhyn.

Dywedodd Taya Drake, Rheolwr Profiad Ymwelwyr ar gyfer Gogledd Orllewin Cymru, Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru: "Pleser yw cael bod yn rhan o’r ffilm newydd Madfabulous. 

"Nid cartref cyndadol Henry Cyril Paget yn unig mo Plas Newydd – roedd yn rhywle lle gallai fod yn driw iddo’i hun ac archwilio’i hunaniaeth, a daeth yn ffigwr cofiadwy yn y gymuned leol. 

"Mae croesawu Madfabulous i’w gyn-gartref, fel lleoliad ffilmio a rŵan trwy gyfrwng yr arddangosfa hon, yn arwyddocaol iawn i ni."

Image
Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Cafodd y mwyafrif o eiddo Henry Cyril Paget, 5ed Marcwis Môn ei werthu yng Ngwerthiannau Môn ar ddechrau'r 20fed ganrif, ac fe gafodd Plas Newydd ei ail-fodelu'n ddiweddarach. 

Ychwanegodd Taya Drake: "Mae arddangos gwisgoedd Madfabulous yn cynnig cyfle arall inni dynnu sylw at ei fywyd anhygoel. Allwn ni ddim dibynnu ar ystafelloedd wedi’u dodrefnu neu wrthrychau gwreiddiol, ond mae’r gwisgoedd hyn yn ein helpu i archwilio’i hunaniaeth, ei greadigrwydd a’i bresenoldeb mewn ffordd sy’n teimlo’n fyw, yn feiddgar ac yn berthnasol i ymwelwyr.”

Callum Scott Howells sy’n chwarae rhan Henry Cyril Paget yn y ffilm, ochr yn ochr â Rupert Everett a Ruby Stokes.

Roedd y cyfarwyddwr o Fôn Celyn Jones a'r sgriptiwr Lisa Baker hefyd yn ganolog i'r ffilm. 

Dywedodd Celyn Jones, Cyfarwyddwr Madfabulous: "Byddai wedi bod yn amhosibl adrodd ei stori heb wisgoedd. Roedd delwedd Henry mor bwysig iddo.

"Rydw i wrth fy modd bod Plas Newydd yn bwriadu arddangos y gwisgoedd yn eu priod le ac yn eu holl ogoniant! Fel hogyn o Fôn, mae cyfarwyddo’r ffilm hon, a’i gweld yn ennyn cymaint o sylw a chanmoliaeth, yn un o anrhydeddau mwyaf fy ngyrfa. Diolch."

Image
Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru
Llun: Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cymru

Cafodd y gwisgoedd eu dylunio gan Francisco Rodriguez-Weil.

"Roedd Henry Cyril Paget yn rhodd i ddylunydd gwisgoedd – dyn a oedd yn deall yn reddfol bod gwisgoedd yn cyfleu pwy ydych chi, neu o leiaf pwy ydych chi’n mentro bod," meddai.

"Nid dyn ecsentrig yn unig mohono. Roedd yn deall – yn well na neb o’i gwmpas, efallai – bod bywyd yn berfformiad, a bod modd ei berfformio mewn ffordd ysblennydd."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.