Beth yw'r cam nesaf i Andy Burnham wrth geisio dychwelyd i San Steffan?
Wrth i'r posibilrwydd o frwydr am arweinyddiaeth y Blaid Lafur gynyddu wedi i Andy Burnam gael ei gynnwys gan y Blaid ar y rhestr o ymgeiswyr posib ar gyfer isetholiad Makerfield, beth yw'r camau nesaf?
Dywedodd Burnham, sydd yn Faer Manceinion, ei fod wedi ceisio caniatâd Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol y Blaid Lafur i sefyll yn yr isetholiad wedi i Josh Simons, AS Llafur Makerfield, ddweud y byddai'n ymddiswyddo fel y gall Mr Burnham "yrru'r newid y mae ein gwlad yn gweiddi amdano".
Mae corff rheoli Llafur, y Pwyllgor Gwaith Cenedlaethol, wedi rhoi caniatâd i Mr Burnham sefyll.
Fe fydd ceisiadau yn cau ddydd Llun, ac fe fydd y pwyllgor yn dewis ymgeisydd ddydd Iau.
Y gred yw mai 18 Mehefin yw'r dyddiad cynharaf y gallai is-etholiad gael ei gynnal.
Bygythiad Reform
Er bod Makerfield yn draddodiadol yn sedd ddiogel i Lafur, mae'r blaid yn disgwyl her gan Reform UK y tro hwn.
Fe wnaeth Mr Simons sicrhau mwyafrif o ddim ond 5,399 dros blaid Nigel Farage yn etholiad cyffredinol 2024.
Yn yr etholiadau lleol yn Lloegr y mis hwn, enillodd Reform bob ward cyngor yn etholaeth Makerfield, gan sicrhau tua hanner y bleidlais, tra mai dim ond ychydig mwy na chwarter enillodd Llafur.
Ond mae Mr Burnham yn adnabyddus ar draws y gogledd orllewin, gydag arolwg barn yn awgrymu pe bai Mr Burnham yn ymgeisydd Llafur yn yr isetholiad, mae Llafur yn fwy tebygol i ennill na Reform UK.
Hebddo, mae'r arolwg yn awgrymu mai Reform fyddai'n hawlio'r sedd.
Pe bai Andy Burnham yn cyrraedd Tŷ'r Cyffredin, fe fyddai angen cefnogaeth 81 o Aelodau Seneddol.
Byddai Syr Keir Starmer ar y papur pleidleisio yn awtomatig os y byddai'n dymuno hynny.
Fe wnaeth yr Ysgrifennydd Iechyd Wes Streeting ymddiswyddo o lywodraeth Syr Keir Starmer brynhawn Iau, gan ddweud ei fod wedi "colli hyder" yn ei arweinyddiaeth.
Nid yw Mr Streeting wedi cyflwyno cais am swydd Syr Keir eto, ond y gred yw bod yr Ysgrifennydd Iechyd yn paratoi i wneud hynny.
Ymhlith yr enwau eraill allai herio'r Prif Weinidog mae’r cyn Ddirprwy Brif Weinidog Angela Rayner, yr Ysgrifennydd Ynni a chyn-arweinydd y blaid Ed Miliband a’r gweinidog lluoedd arfog Al Carns.