Côr Bechgyn Glantaf i gystadlu yn rownd gynderfynol Britain's Got Talent
Fe fydd Côr Bechgyn Glantaf yn cystadlu yn rownd gynderfynol Britain's Got Talent nos Sadwrn.
Llwyddodd y côr o Gaerdydd a'u harweinydd Lloyd Macey i blesio'r pedwar beirniad ar y rhaglen yn y rownd gyntaf a gafodd ei darlledu ym mis Ebrill.
Bellach, mae'r côr wedi cyrraedd y rownd gynderfynol, ac fe fyddan nhw'n cystadlu am bleidlais y cyhoedd.
Dim ond dau o'r wyth sy'n cystadlu nos Sadwrm fydd yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol.
Wrth gystadlu yn y rownd gyntaf, roedd y criw o dan yr argaff eu bod yn gwylio delw o Simon Cowell yn cael ei ddadorchuddio, cyn iddi ddod yn amlwg mai'r Simon Cowell go iawn oedd o'u blaenau.
Wrth i'r criw a'u harweinydd gamu i'r llwyfan, eglurodd Simon Cowell fod Lloyd Macey ar raglen yr X Factor tua wyth mlynedd yn ôl.
"Rhoddodd hynny gymaint o hyder i fi," meddai Lloyd.
" A dyna pham dwi i wedi dod â'r bechgyn yma ar gyfer Britain's Got Talent, 'dw i eisie iddyn nhw gredu yn eu hunain, i fod ar y llwyfan cenedlaethol hwn yn cynrychioli Ysgol Glantaf - mae'n anhygoel!"
Wedi i'r côr o 70 o fechgyn ganu 'Never Enough' cododd y pedwar beirniad ar eu traed yng nghanol cymeradwyaeth enfawr gan y gynulleidfa.
Pe bai'r côr yn llwyddo i fynd ymlaen i'r rownd derfynol, fe fyddai ganddyn nhw'r cyfle i ennill y wobr o £250,000 a pherfformio yn sioe y Royal Variety.