Neuadd ‘sy’n perthyn i bawb’ yn dathlu 100 mlynedd o adloniant ym Mrynaman

Thomas Smith

Mae neuadd gyhoeddus a adeiladwyd gan lowyr ym Mrynaman yn dathlu 100 mlynedd ers iddi agor ei drysau am y tro cyntaf.

Agorodd Neuadd Gyhoeddus Brynaman (Brynaman Public Hall) ar 15 Mai 1926, ac mae’r adeilad wedi parhau i fod yn ganolbwynt i’r gymuned ers hynny.

Dyma’r ail neuadd gyhoeddus i gael ei hadeiladu ar y safle, wedi i’r neuadd gyntaf gael ei dinistrio gan dân yn 1915.

Dechreuodd y gwaith o godi’r adeilad newydd yn 1924, gyda lle i tua 1,100 o bobl, yn ôl gwefan y sinema.

Mae’r awditoriwm, sydd yn arddull Art Deco, wedi’i gadw bron yn gyfan hyd heddiw, gyda nifer o’r gosodiadau gwreiddiol a’r hen swyddfa docynnau bren yn dal i gael eu defnyddio.

Mewn neges ar gyfryngau cymdeithasol, dymunodd y gyflwynwraig Heledd Cynwal ben-blwydd “hapus iawn yn 100 oed” i’r neuadd.

“...ac yn dal i fod yn rhan mor bwysig o’r gymuned,” meddai.

Image
Poster Neuadd Gyhoeddus Brynaman
Poster y seremoni agoriadol wreiddiol 100 mlynedd yn ôl

Wrth siarad gyda Newyddion S4C, dywedodd Thomas Smith, rheolwr y sinema, ei bod hi’n “anrhydedd” bod yn rhan o sefydliad sydd wedi cyrraedd ei ganmlwyddiant.

“Ni’n teimlo’n freintiedig iawn,” meddai.

“Mae’r bobl sydd wedi rhoi eu hamser dros y blynyddoedd, yr holl wirfoddolwyr, yr ymddiriedolwyr, y rheolwyr blaenorol, wedi brwydro yn erbyn pob math o heriau i gadw’r neuadd ar agor.

“Mae hi wedi parhau i weithredu’n ddi-dor ers y diwrnod cyntaf."

Heddiw, mae’r neuadd yn gartref i sinema annibynnol sydd ar agor saith diwrnod yr wythnos, gyda dwy sgrin yn dangos ffilmiau mawr newydd, ffilmiau clasurol, ffilmiau annibynnol a ffilmiau Cymreig.

Mae’r neuadd hefyd yn cynnal digwyddiadau byw, gan gynnwys perfformiadau theatr a chyngherddau.

Image
Thomas Smith, Rheolwr y Neuadd yn y swyddfa docynau gwreiddiol
Thomas Smith, rheolwr y neuadd, yn y swyddfa docynau gwreiddiol

'Y sinema olaf sydd ar ôl yn y cwm'

Dywedodd Mr Smith fod y neuadd wedi goroesi sawl her dros y blynyddoedd, o’r Ail Ryfel Byd i’r pandemig Covid-19, yn ogystal â newidiadau mawr yn y ffordd mae pobl yn gwylio ffilmiau.

“Fe arhosodd y neuadd yma ar agor drwy’r Ail Ryfel Byd,” meddai.

“Ac wedyn yn ystod pob her newydd fel teledu, fideo cartref, sinemâu aml-sgrin, ac yna’r cyfnod ar-lein gyda Netflix a ffrydio.

“Mae sinemâu wedi cau, un ar ôl y llall, yn raddol, yn anffodus dros y blynyddoedd, yn enwedig sinemâu annibynnol, ond ry'n ni wedi llwyddo i aros ar agor.

“Erbyn hyn, ni yw’r sinema olaf sydd ar ôl yn y cwm.”

Yn ôl ymchwil gan y Swyddfa Sinema Annibynnol, mae bron i draean o sinemâu annibynnol a lleoliadau celfyddydol cymysg yn y DU mewn perygl o beidio â gallu parhau fel sinemâu dros y tair i bum mlynedd nesaf heb fuddsoddiad cyfalaf.

100 mlwyddiant

Fel rhan o’r dathliadau, mae’r sinema wedi rhannu casgliad o luniau o ystafell y daflunydd, gan ei disgrifio fel “calon unrhyw sinema”.

Yn ôl y neuadd, mae’r lluniau’n dangos rhai o’r taflunyddion, y proseswyr sain a’r systemau rheoli sydd wedi cael eu defnyddio yno dros y blynyddoedd, wrth i’r sinema symud o lampau carbon arc i ffilm 35mm ac yna i sinema ddigidol.

Dywedodd y neuadd fod y lluniau’n ein hatgoffa nad yw’r sinema hanesyddol “erioed wedi sefyll yn llonydd”.

Image
Taflunyddion Neuadd Gyhoeddus Rhydaman
Casgliad o luniau archif y neuadd o ystafell y taflunydd

I nodi’r pen-blwydd, mae’r neuadd wedi cynnal wythnos o ffilmiau clasurol, gan gynnwys Cinema Paradiso, The Searchers a Top Gun.

Fel rhan o’r dathliadau, cafodd dangosiad am ddim o Grease ei gynnal. Honno oedd, hyd y gwyddom ni, y ffilm mwyaf poblogaidd erioed i gael ei dangos yn y neuadd gyhoeddus, meddai Mr Smith.

“Yn ôl atgofion pobl leol, nôl yn 1977 pan ddaeth y ffilm allan, fe gafodd y ffilm ei dangos yn ddi-stop am bythefnos, ac fe lenwodd y neuadd gyhoeddus bob dydd, felly tua 900 o seddi bryd hynny, ym mhob dangosiad," meddai.

“Felly rydym ni wedi dod â hi’n ôl i ddathlu, ac rydym ni’n cynnal dangosiad hollol am ddim, yn agor y drysau ac yn gadael i bawb ddod i mewn i fwynhau’r ffilm.”

'Dyma eich neuadd gyhoeddus chi"

Dywedodd Mr Smith fod perthynas y neuadd â’r gymuned leol yn parhau i fod yn ganolog i’w dyfodol.

“Mae’r neuadd gyhoeddus yn perthyn i bawb yn y pentref,” meddai.

“Mae’n perthyn i’r gymuned. Ond rydym ni’n ei rheoli fel pwyllgor.

“Mae unrhyw un o’r gymuned yn rhydd i ymuno â’r pwyllgor ac, wrth gwrs, rheoli eu neuadd gyhoeddus nhw.

“Felly ry'n ni yn dweud wrth bobl o hyd, ‘Dyma eich neuadd gyhoeddus chi.’”

Dywedodd fod y model cymunedol hwnnw yn “eithaf prin”.

“Y glowyr adeiladodd y sinema, ac mae hi wedi bod mewn perchnogaeth gymunedol ers hynny,” meddai.

“Ni’n ddisgynyddion uniongyrchol i’r union bobl a agorodd a rhedeg y lle yn y lle cyntaf, sy’n deimlad hyfryd.”

Image
Gwisg ffansi John Wayne
Rhai o'r cwsmeriaid wedi gwisgo fel John Wayne i wylio un o'r clasuron i ddathlu'r canmlwyddiant

Wrth edrych ymlaen at y dyfodol, dywedodd Mr Smith fod cynnal a chadw’r adeilad yn un o’r prif heriau.

“Un peth ry'n ni’n ei wynebu ar hyn o bryd yw ein bod ni’n rhedeg y sinema a’r neuadd, ond rydym ni hefyd yn gofalu am yr adeilad,” meddai.

“Ar gyfer y math yna o beth, mae’n rhaid i ni ddibynnu ar gyllid grant.”

Ond dywedodd ei fod yn hyderus y bydd y neuadd yn parhau am flynyddoedd i ddod, cyn belled â bod y gymuned yn parhau i’w chefnogi.

“Mae’r lle yma’n wydn iawn, felly dwi’n hollol hyderus y bydd e’n para am byth,” meddai.

“Cyn belled â bod pobl eisiau i’w neuadd gyhoeddus nhw fod yma, fe fydd hi yma. Cyn belled â bod pobl yn parhau i ddod i mewn, fe fyddwn ni yma.”

Lluniau: Brynaman Public Hall

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.