Teyrngedau i gyn-aelod o'r Senedd Caroline Jones sydd wedi marw'n 71 oed
Mae teyrngedau wedi eu rhoi i'r cyn-aelod o Senedd Cymru Caroline Jones yn dilyn ei marwolaeth.
Roedd hi'n 71 oed ac wedi dioddef cyfnod byr o salwch.
Wrth siarad â BBC Cymru, dywedodd ei gŵr, Alun Williams, ei bod hi’n “ddynes arbennig” oedd yn cael ei pharchu’n fawr yn y Senedd ac “yn gwneud popeth o fewn ei gallu dros bobl eraill”.
Yn ôl Alun Williams, roedd cyflwr Ms Jones wedi datblygu’n “sydyn iawn”, ac roedd y teulu’n ceisio dod i delerau â’r sefyllfa ar y pryd.
Roedd Ms Jones yn sefyll fel ymgeisydd annibynnol yn etholiad y Senedd 2026 yr wythnos ddiwethaf.
Bu’n Aelod o’r Senedd dros ranbarth Gorllewin De Cymru rhwng Mai 2016 ac Ebrill 2021.
Cafodd ei hethol i’r Cynulliad yn 2016 fel aelod o UKIP, cyn mynd ymlaen i eistedd fel aelod annibynnol.
Yn ddiweddarach, fe ymunodd â grŵp y Brexit Party/Reform UK cyn arwain grŵp Y Gynghrair Annibynnol dros Ddiwygio - Independent Alliance for Reform - yn y Senedd.
Fe adawodd Ms Jones Reform UK ym mis Ebrill 2026 wedi mynegi “pryderon difrifol” am y ffordd roedd y blaid wedi dewis eu hymgeiswyr, gan gynnwys ymgeiswyr roedd hi’n dweud oedd wedi cael eu “parasiwtio” i mewn o ardaloedd tu allan i Gymru.