Elfyn Llwyd yn dychwelyd i wleidyddiaeth rheng flaen fel Cwnsler Cyffredinol
Mae'r cyn aelod seneddol Elfyn Llwyd wedi dychwelyd i wleidyddiaeth rheng flaen ar ôl cael ei benodi'r Gwnsler Cyffredinol yn llywodraeth newydd Cymru.
Cyhoeddodd y Prif Weinidog Rhun ap Iorwerth aelodau ei gabinet brynhawn dydd Mercher, wedi i'w blaid ddod y blaid fwyaf yn Senedd Cymru ar ôl yr etholiad ddydd Iau, gyda 43 o aelodau.
Roedd Mr Llwyd, sydd yn fargyreithiwr yn ôl ei alwedigaeth, yn aelod seneddol Plaid Cymru yn Nhŷ'r Cyffredin am flynyddoedd.
Cafodd ei ethol fel aelod seneddol dros etholaeth Meirionnydd Nant Conwy am y tro cyntaf ym 1992.
Fe gafodd ei ailethol i wanasaethu etholywr y sedd yn 1997, 2001 a 2005.
Cafodd ei benodi'n aelod o'r Cyfrin Gyngor yn 2011.
O Fetws-y-Coed y mae Mr Llwyd yn dod wreiddol. Cafodd ei eni yno yn 1951 cyn i'r teulu symud i Lanrwst.
Aeth i'r brifysgol yn Aberystwyth cyn cymhwyso fel cyfreithiwr yng Nghaer.
Yn ddiweddarach ymunodd gyda'r Bar gan ddod yn fargyfreithiwr cyn troi at wleidydda.
Fe wnaeth ymddeol fel aelod seneddol yn 2015.
Yn briod gyda'r gantores werin Eleri Llwyd, mae ganddynt ddau o blant ac mae eu cartref teuluol yn Llanuwchllyn ger Y Bala.
Ymysg ei ddiddordebau mae cadw colomennod.
Mae swydd y Cwnsler Cyffredinol wedi ei phenodi i aelodau o du hwnt i'r Senedd o'r blaen, gyda Theodore Huckle QC yn ei gwneud rhwng 2011 a 2016 ac Elisabeth Jones yn 2024.