100 o swyddi newydd mewn ffatri yng Ngwynedd wedi buddsodiad o £2m

Heler Foods, Minffordd

Bydd tua 100 o swyddi newydd yn cael eu creu yng Ngwynedd wrth i ffatri gaws dderbyn buddsoddiad o £2 miliwn.

Mae cwmni Heler Foods Packing, sy’n rhan o Heler Foods, wedi cyhoeddi y bydd yn ehangu ei ffatri ym Minffordd ger Porthmadog.

Bydd y gwaith adeiladau yn cychwyn yn ddiweddarach yn y mis.

“Rydym wedi gweld twf cryf dros y pedair blynedd diwethaf ac mae ehangu ein presenoldeb ym Mhorthmadog yn ein galluogi i adeiladu’r capasiti sydd ei angen ar gyfer cymal nesaf ein taith.

“Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau ein bod â’r gwagle a’r galli i gefnogi ein twf parhaus,” meddai’r Prif Weithredwr George Heler.

Mae disgwyl y bydd y buddsoddiad yn creu 100 o swyddi newydd dros y tair blynedd nesaf. 

Mae 220 o bobl eisoes wedi’u cyflogi ar y safle.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.