
Cwpan y Byd 2022: Cymru'n paratoi i herio Estonia yng Nghaerdydd
Mae tîm pêl-droed Cymru yn paratoi i herio Estonia mewn gêm ragbrofol pencampwriaeth Cwpan y Byd 2022 nos Fercher.
Hon fydd y gêm gyntaf i dîm Rob Page ei chwarae o flaen stadiwm lawn ers dechrau'r pandemig coronafeirws.
Yn Stadiwm Dinas Caerdydd bydd y garfan yn ceisio sicrhau mantais a dringo o’r trydydd i’r ail safle yn eu grŵp.
Mae Gwlad Belg ar y brig gyda mantais o saith pwynt dros Gymru hyd yma, a'r Weriniaeth Tsiec yn ail gyda mantais o un pwynt dros Gymru – gyda’r ddau dîm eisoes wedi chwarae dwy gêm yn fwy na Chymru.
Fe fyddai Cymru yn cael maddeuant am fod yn hyderus cyn y gêm nos Fercher gan fod y gwrthwynebwyr yn safle 110 ar restr detholion FIFA, gyda’r crysau cochion dipyn uwch yn y 19eg safle.
Mewn cynhadledd i’r wasg ddydd Mawrth, dywedodd Robert Page, rheolwr dros dro Cymru, fod gan y tîm “bopeth i chwarae amdano”.

Daw’r gêm gartref yn dilyn buddugoliaeth Cymru yn erbyn Belarws os Sul, gyda thair gôl y capten Gareth Bale yn sicrhau mantais o 2-3, a hynny yn y munudau olaf un.
Fe wynebodd y garfan y gêm honno gyda 13 chwaraewr yn absennol oherwydd anafiadau, problemau visa ac achosion o Covid-19.
Erbyn hyn, mae Ethan Ampadu, Tyler Roberts a Brandon Cooper yn ôl yn y garfan, ac mae Joe Rodon wedi ei ryddhau gan Tottenham Hotspur ar ôl gwella o anaf.
Er mawr siom i'r cefnogwyr, ni fydd Aaron Ramsey yn wynebu tîm Thomas Häberli nos Fercher oherwydd anaf.
Bydd gêm nesaf Cymru yn gemau rhagbrofol Cwpan y Byd 2022 yn erbyn y Weriniaeth Tsiec ar 8 Hydref.
Bydd y gêm yn cael ei darlledu yn fyw ar S4C nos Fercher, gyda’r sylwebaeth yn dechrau am 19:25.
Llun: Asiantaeth luniau Huw Evans