Y Blaid Werdd yn bwriadu cefnogi Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog
Mae’r Blaid Werdd wedi dweud y bydd eu dau aelod yn y Senedd yn pleidleisio o blaid Rhun ap Iorwerth i fod yn Brif Weinidog.
Daw wedi i’r Democratiaid Rhyddfrydol a’r Blaid Lafur awgrymu y byddwn nhw’n ymatal ar y bleidlais.
Dywedodd Anthony Slaughter, arweinydd y Blaid Werdd yng Nghymru, fod gan Mr ap Iorwerth “fandad clir” i arwain ar ôl ennill y nifer fwyaf o seddi mewn etholiad hanesyddol.
Plaid Cymru sydd â’r grŵp mwyaf yn y Senedd, gyda 43 o Aelodau o’r Senedd, ond methodd â sicrhau mwyafrif sef 49.
Ddydd Sadwrn, dywedodd Mr ap Iorwerth wrth ohebwyr ei fod yn gobeithio ffurfio llywodraeth leiafrifol ac y byddai’n cyflwyno ei enw i fod yn Brif Weinidog.
Bydd Mr Slaughter a Paul Rock, a ddaeth yn ASau cyntaf erioed y Gwyrddion yn yr etholiad ddydd Iau, yn pleidleisio o blaid y cynnig hwnnw, meddai arweinydd y blaid.
Dywedodd: “Mae ganddo fandad mor glir i fod yn brif weinidog, felly fe fyddwn ni’n cefnogi hynny.
“Dw i’n credu y bydd e’n brif weinidog da.”
‘Cydweithio’
Dywedodd Anthony Slaughter fod y Gwyrddion wedi bod yn dathlu canlyniad “hanesyddol”, er iddynt ennill llai o ASau nag yr oeddent wedi gobeithio amdano.
Roedd y blaid wedi cyflwyno ei hun fel un a allai ddylanwadu ar bwy fyddai’n ffurfio llywodraeth yn yr etholiad hwn, a dywedodd Mr Slaughter ei fod yn agored i drafodaethau gyda Phlaid Cymru ynghylch cytundeb posib.
“Mae’r torri tir newydd yna, dau o’r Gwyrddion yn y Senedd, ein tro cyntaf ni yn torri trwodd i’r Senedd… Mae hynny’n newid popeth i ni,” meddai.
“Fe welson ni ganlyniadau gwych i’r Gwyrddion yn Llundain a’r Alban, ac mae’n dangos bod pobl ar draws y DU yn chwilio am y neges honno o obaith a’r wleidyddiaeth feiddgar, radical rydyn ni’n ei chynnig.”
Ychwanegodd nad oedd trafodaethau gyda Phlaid Cymru wedi dechrau eto.
Dywedodd: “Rydyn ni wedi llongyfarch ein gilydd ar y canlyniadau, dw i wedi llongyfarch Plaid ar eu buddugoliaeth, yn enwedig dros Reform, ac maen nhw wedi ein llongyfarch ni ar dorri trwodd.
“Dw i wastad wedi bod yn eithaf clir bod cydweithio a chydweithredu yn rhan o’n DNA ni.
“Dw i’n croesawu’r ffaith bod Rhun [ap Iorwerth] wedi sôn am weithio gyda phleidiau blaengar lle mae meysydd o dir cyffredin, ac mae hynny’n sicr yn rhywbeth y mae’r Gwyrddion yn barod i’w wneud.”