Hantafeirws: Dechrau'r broses o ryddhau teithwyr oddi ar long MV Hondius yn Tenerife

Llong yr MV Hondius yn cyrraedd Tenerife
MV Hondius yn cyrraedd Tenerife

Mae'r broses o ryddhau teithwyr oddi ar long oedd wedi'i tharo gan achosion o’r hantafeirws wedi dechrau yn Tenerife yn yr Ynysoedd Dedwydd.

Fe wnaeth y llong bleser, sy'n cynnwys 22 o deithwyr a chriw o Brydain, gyrraedd Porthladd Granadilla de Abona fore Sul. 

Fe fydd Prydeinwyr sydd wedi bod ar fwrdd y llong MV Hondius yn cael eu dychwelyd i'r DU er mwyn ynysu mewn ysbyty yng Nglannau Mersi.

Mae Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi dweud y bydd y teithwyr o Brydain yn cael eu trosglwyddo i gyfleuster arbennig yn Ysbyty Arrowe Park yng Nghilgwri ar ôl cael eu dychwelyd i’r DU ar hediad siarter.

Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU nos Sadwrn fod y risg i'r cyhoedd yn gyffredinol "yn parhau i fod yn isel iawn".

Bydd swyddogion o'r asiantaeth a'r Swyddfa Dramor yn cyfarch yr MV Hondius pan fydd yn docio yn Tenerife, gyda Phrydeinwyr ar fwrdd y llong yn cael eu profi am y feirws hanta cyn iddyn nhw adael.

Os yw pobl yn profi'n negatif am y feirws a heb ddangos unrhyw symptomau, byddan nhw'n cael eu hebrwng yn syth ar hediad siarter sydd wedi'i staffio gan weithwyr meddygol proffesiynol ac sy'n cynnwys offer amddiffynnol fel masgiau wyneb.

Dywedodd gweinidog iechyd Sbaen, Monica Garcia y bydd yr hediadau yn cychwyn erbyn ddydd Llun.

Ar ôl dychwelyd i'r DU, bydd y teithwyr yn gorfod ynysu ar safle Arrowe Park i ffwrdd o fannau cyhoeddus yr ysbyty i dderbyn profion ac asesiadau clinigol.

Cafodd yr ysbyty ei ddefnyddio i gartrefu dinasyddion Prydeinig a oedd yn dychwelyd o Wuhan, China, ym mis Ionawr 2020 ar ddechrau'r pandemig Covid.

Dywedodd Sefydliad Iechyd y Byd ddydd Sadwrn nad oedd unrhyw deithwyr â symptomau ar fwrdd y llong ar hyn o bryd.

Mae'r sefydliad yn dweud bod chwe achos wedi'u cadarnhau o'r feirws hanta yn gysylltiedig ag MV Hondius, gyda phedwar claf yn yr ysbyty ar hyn o bryd. Ychwanegodd fod cyfanswm o wyth achos wedi'u hadrodd, gan gynnwys tri marwolaeth,

Dywedodd Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU fod tri pherson o Brydain wedi'u cynnwys yn yr wyth achos, gyda dau achos wedi'u cadarnhau ac un posib.

Mae'r ddau achos Prydeinig wedi'u cadarnhau mewn ysbytai yn Ne Affrica a'r Iseldiroedd, tra bod y trydydd dinesydd Prydeinig wedi gadael y llong ar Tristan da Cunha, lle maen nhw'n byw ac yn cael eu cynnal gan wasanaethau iechyd ar yr ynys yn Ne'r Iwerydd.

'Gweithio ar gyflymder'

Dywedodd yr Athro Robin May, prif swyddog gwyddonol Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU: "Rydym yn parhau i weithio ar gyflymder gyda’n partneriaid rhyngwladol i sicrhau bod dinasyddion Prydain yn cael eu dychwelyd yn ddiogel o’r MV Hondius.

"Diogelwch a lles y rhai sydd ar fwrdd y llong yw ein prif flaenoriaeth o hyd. Bydd mesurau rheoli heintiau sefydledig ar waith ym mhob cam o’r daith, a bydd teithwyr yn derbyn cefnogaeth lawn drwyddi draw, gan gynnwys yn ystod eu cyfnod o ynysu."

Dywedodd Janelle Holmes, prif weithredwr Ymddiriedolaeth Sefydledig GIG Ysbyty Addysgu Prifysgol Cilgwri, mewn llythyr at staff: "Mae GIG Lloegr ac Asiantaeth Diogelwch Iechyd y DU wedi gofyn i ni roi llety i’r gwesteion, gan gydnabod pa mor gyflym a chadarnhaol y gwnaethom ymateb i a chefnogi dinasyddion Prydeinig o Wuhan a’r Diamond Princess cyn pandemig Covid.

"Byddwn yn croesawu’r gwesteion ddydd Sul 10 Mai 2026 a byddan nhw i gyd yn cael eu sgrinio am symptomau cyn iddyn nhw gyrraedd y safle; ni fydd neb sy’n dangos unrhyw symptomau yn cael ei drosglwyddo yma.

"Os bydd unrhyw un yn mynd yn sâl ar ôl cyrraedd, byddan nhw'n cael eu trosglwyddo’n gyflym i gyfleuster arall."

Dywedodd y gwasanaethau brys yng ngogledd-orllewin Lloegr eu bod yn disgwyl i’r teithwyr gael eu cadw mewn "lleoliad sy'n cael ei reoli" am hyd at 72 awr.

Yna bydd arbenigwyr iechyd cyhoeddus yn asesu a allant hunanynysu gartref neu mewn lleoliad addas arall yn seiliedig ar eu trefniadau byw.

Bydd Prydeinwyr sy’n dychwelyd i’r DU yn gorfod ynysu am 45 diwrnod ac ni fyddan nhw'n cael mynd ar drafnidiaeth gyhoeddus i’w cartrefi.

 
 
 
 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.