Llafur Cymru yn cyhoeddi mai Ken Skates yw’r arweinydd newydd dros dro
Mae Llafur Cymru wedi penodi arweinydd dros dro, lai na 24 awr ar ôl i Eluned Morgan ymddiswyddo wedi iddi golli ei sedd yn Etholiad y Senedd 2026.
Mae Ken Skates, sy'n Aelod o’r Senedd dros Fflint Wrecsam, wedi ymgymryd â’r swydd meddai llefarydd ar ran y blaid.
Cafodd Skates ei ethol am y tro cyntaf yn 2011, ac mae wedi dal sawl swydd yn Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Ysgrifennydd Trafnidiaeth ac Ysgrifennydd yr Economi a Seilwaith.
Bydd yn gwasanaethu fel arweinydd nes bod amserlen yn cael ei gosod ar gyfer etholiad arweinyddiaeth llawn yn unol â rheolau Llafur Cymru.
Wrth siarad ar ôl ei benodiad, dywedodd Ken Skates: “Dim ond dechrau proses yw heddiw a fydd yn ein helpu ni i ddeall beth aeth o’i le. Oherwydd fe aeth pethau o’i le.
"Mae’n dasg a fydd yn gofyn i bob un ohonom gymryd rhan – pob aelod, pob cynghorydd, pob AS, AS San Steffan, Arglwydd a phob rôl sydd yn y canol. Ond nid yw’n dasg sydd y tu hwnt i ni.
“Rwy’n credu heddiw fod Llafur Cymru ar ei gorau pan fyddwn ni’n hyrwyddwyr pobl Cymru; ein rôl ni yw gwasanaethu, ac ymladd dros y materion sydd bwysicaf. Ni yw’r Blaid a anfonodd Keir Hardie i’r Senedd am y tro cyntaf, a greodd y GIG.
"Ni yw plaid datganoli, plaid presgripsiynau am ddim, prydau ysgol am ddim i bawb, partneriaeth gymdeithasol a Deddf Cenedlaethau’r Dyfodol.
“Rydym ni’n blaid sydd â hanes anhygoel o wasanaethu Cymru a’i phobl, ac mae gennym ni gymaint mwy i’w roi.”
Wrth dalu teyrnged i Eluned Morgan, dywedodd: “Hoffwn ddiolch i Eluned am bopeth mae hi wedi’i wneud dros y ddwy flynedd ddiwethaf fel ein Prif Weinidog, ac yn ystod ei 30 mlynedd o wasanaeth i Gymru a’r Blaid Lafur.
"Mae ei dyfalbarhad a’i phenderfyniad yn wyneb her wirioneddol yn rhywbeth y byddwn ni fel plaid bob amser yn falch ohono.
"Fe dorrodd hi’r nenfwd gwydr (glass ceiling), ac mae ei lle mewn hanes fel y fenyw gyntaf i arwain ein plaid a’n gwlad yn gamp heb ei hail.”