Cau Pont y Borth ymhen wythnos er mwyn cynnal gwaith i'w diogelu

pont y borth.jpg

Bydd Pont y Borth yn cael ei chau yn llwyr rhwng 14.00 ddydd Gwener 15 Mai, tan 18.00 ddydd Sadwrn 16 Mai, er mwyn cynnal gwaith i'w diogelu. 

Bydd un lôn ar gau rhwng 13 Mai 2026 a 22 Mai 2026, rhwng 10.00 a 18.00 bob dydd ar y bont rhwng Gwynedd a Môn, gyda goleuadau traffig yn eu lle i reoli traffig yn ystod y cyfnod hwn. 

Cyhoeddodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: "Er mwyn ymgymryd â gwaith i fynd i'r afael â risg diogelwch uniongyrchol sy'n gysylltiedig â cheblau cyfathrebu heb eu diogelu o dan y bont, ac i roi mesurau i sicrhau diogelwch y gweithlu ar y bont, byddwn yn cau'r bont yn llawn am gyfnod byr yr wythnos nesaf gan gau lôn cyn ac ar ôl hynny.

"Rhaid diogelu'r ceblau, sy'n darparu cysylltiadau cyfathrebu ag Ynys Môn ac Iwerddon, cyn y gall gwaith pellach barhau. Bydd y gwaith hwn yn cael ei wneud gyda BT." 

Bydd modd i gerddwyr a beicwyr oddi ar eu beiciau groesi'r bont yn ystod y cyfnod y bydd ar gau.

Bydd y traffig yn cael ei ddargyfeirio dros Bont Britannia. 

Mae'r Llywodraeth yn pwysleisio ei bod yn hanfodol gorfodi'r terfyn pwysau 7.5 tunnell er mwyn gallu parhau i ddefnyddio'r bont yn ddiogel tra bo'r gwaith yn mynd yn ei flaen.   

Os bydd cerbyd uwchlaw y terfyn hwn yn croesi'r bont, yna bydd yn rhaid ei chau ar gyfer archwiliad llawn.   

Cafodd y bont ei chau ddiwedd Ebrill am fod cerbyd a oedd dros y pwysau hwnnw wedi ei chroesi.   

Pwysleisiodd y llefarydd hefyd fod cadw at y terfyn cyflymder ar y bont hefyd yn hanfodol ar gyfer diogelwch y gweithlu.

Mae'r bont eiconig yn dathlu ei phen-blwydd yn 200 oed eleni.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.