Bonnie Tyler mewn coma ar ôl derbyn llawdriniaeth frys
Mae’r gantores Bonnie Tyler wedi’i rhoi mewn coma ar ôl derbyn llawdriniaeth frys.
Mae’r seren 74 oed, sy’n wreiddiol o ardal Castell-nedd, yn cael ei thrin yn Faro, Portiwgal, lle mae ganddi gartref.
Cafodd lawdriniaeth frys ar ei choluddyn ddydd Mercher, ac mae llefarydd ar ei rhan wedi rhannu diweddariad am ei chyflwr.
“Cafodd Bonnie ei rhoi mewn coma gan ei meddygon er mwyn helpu ei hadferiad," meddai'r llefarydd.
“Rydym yn gwybod eich bod yn dymuno’n dda ac fe ofynnwn am breifatrwydd yn ystod y cyfnod anodd hwn.
“Byddwn yn rhannu datganiad pellach pan fyddwn yn gallu gwneud hynny.”