Etholiad Senedd Cymru: Y cyfri pleidleisiau i ddechrau fore Gwener
Gyda’r gorsafoedd pleidleisio ar gau ers 22:00 nos Iau, bydd y cyfri pleidleisiau yn etholiad Senedd Cymru yn dechrau fore Gwener.
Mae Cadeirydd Ymgyrch Llafur Cymru, Huw Irranca-Davies, wedi dweud bod yr ymgyrch wedi bod yn un “anodd” i’r blaid, a hynny “dan amgylchiadau heriol”.
“Ar ôl llawer o flynyddoedd mewn llywodraeth yng Nghymru, a chyda Llafur nawr yn llywodraethu ar draws y DU, roedd wastad mynd i fod ymdeimlad cryf o rwystredigaeth a newid. Mae’r pwysau costau byw parhaus y mae pobl yn eu teimlo yn wirioneddol ac yn cael eu teimlo’n ddwfn.
“Drwy gydol yr ymgyrch, mae Eluned Morgan wedi dangos arweinyddiaeth bositif, egnïol a phenderfynol yn ystod cyfnod anodd iawn. Fe wnaeth hi ymgymryd â’r her yn ystod un o’r cyfnodau anoddaf i Lafur Cymru ei wynebu erioed, gan arwain â dygnwch, chynhesrwydd a ffocws.”
Dywedodd llefarydd ar ran Plaid Cymru: “Wrth i’r gorsafoedd pleidleisio gau ledled Cymru heno, mae Plaid Cymru yn diolch i bawb sydd wedi cymryd rhan yn y foment bwysig hon i’n democratiaeth ac i ddyfodol ein cenedl.
“Mae pobl wedi dweud wrthym eu bod wedi cael eu hysbrydoli gan arweinyddiaeth Rhun ap Iorwerth ac wedi’u gyrru gan awydd am ddewis arall cadarnhaol i anhrefn Reform UK a’u hymgais i rannu ein cymunedau.
“Mae pobl Cymru bellach wedi pleidleisio, ac rydym yn edrych ymlaen at y canlyniadau ddydd Gwener gyda gobaith am y dyfodol cadarnhaol y mae Cymru’n ei haeddu.”
Dywedodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Jane Dodds: “Rwy’n hynod ddiolchgar i’n hymgeiswyr, ein gwirfoddolwyr a’n cefnogwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino mewn cymunedau ledled y wlad yn ystod yr ymgyrch hon.
“Beth bynnag fydd y canlyniad, bydd ein plaid yn parhau i frwydro dros wasanaethau lleol cryfach, economi decach a Chymru lle mae pob cymuned yn cael y cyfle i ffynnu.”
System newydd
Dyma’r tro cyntaf i’r etholiad ddefnyddio system bleidleisio gyfrannol newydd, gydag 16 etholaeth a phob un yn cael eu cynrychioli gan chwe aelod o’r Senedd.
Mae hynny’n golygu y bydd 96 o aelodau’n cael eu hethol, o’i gymharu â 60 yn flaenorol.
Mae swyddogion canlyniadau wedi cael cyfarwyddyd na ddylai'r cyfrif ddechrau cyn 09:00 ond dim hwyrach na 11:00 fore Gwener.
Mae disgwyl i’r canlyniadau cyntaf gael eu cyhoeddi yn y prynhawn.
Ar gyfer y mwyafrif o etholiadau cyffredinol y DU, mae'r cyfri wedi bod yn digwydd dros nos gyda'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi yn oriau mân y bore.
Ond y syniad y tu ôl i'r newid yn Etholiad y Senedd yw bod cyfri yn y dydd yn caniatáu i fwy o bobl gael y wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau wrth i ganlyniadau gael eu cyhoeddi.
Roedd yna gyfri yn y dydd yn yr etholiad Senedd diwethaf yn 2021, ac fe ddigwyddodd yr un peth yn etholiadau'r cyngor yn 2022 ac etholiad y comisiynydd heddlu a throseddu yn 2024.
Oherwydd ei fod yn system bleidleisio newydd mae mwy o ansicrwydd nag arfer ynglŷn â phryd fydd y canlyniadau llawn wedi eu cyhoeddi.
Mae asiantaeth newyddion PA wedi casglu amseroedd amcangyfrifedig ar gyfer cyhoeddi’r canlyniadau.
Brasamcanion yw’r amseroedd i gyd. Gallan nhw gael eu heffeithio gan oedi wrth wirio a chyfrif pleidleisiau, gan lefel y nifer a bleidleisiodd, neu gan yr angen i ail-gyfri pleidleisiau os yw’r canlyniadau’n agos.
Mae’r holl amseroedd yn cyfeirio at ddydd Gwener:
- Casnewydd Islwyn - 14:00
- Gŵyr Abertawe - 14:00
- Sir Fynwy Torfaen - 14:00
- Bangor Conwy Môn - 15:00
- Blaenau Gwent Caerffili Rhymni - 15:00
- Brycheiniog Tawe Nedd - 15:00
- Caerdydd Ffynnon Taf - 15:00
- Caerdydd Penarth - 15:00
- Ceredigion Penfro - 15:00
- Clwyd - 15:00
- Pen-y-Bont Bro Morgannwg 15:00
- Afan Ogwr Rhondda - 15:30
- Gwynedd Maldwyn - 15:30
- Pontypridd Cynon Merthyr - 16:00
- Sir Gaerfyrddin - 16:00
- Fflint Wrecsam - 17:30
