Hyfforddwr pêl-droed 'wedi cael ei fwlio’ cyn ei farwolaeth, yn ôl ei wraig
Rhybudd: Mae’r erthygl hon yn trafod hunanladdiad
Mae gwraig cyn-hyfforddwr tîm pêl-droed menywod Lerpwl wedi dweud mewn gwrandawiad cyn-gwest i farwolaeth ei gŵr ei bod yn teimlo iddo gael ei “fwlio” yn ystod ei amser gyda Chlwb Pêl-droed Burnley.
Cafodd Matthew Beard, 47 oed, ei ddarganfod yn crogi yn ei gartref yn Green Meadows, Penarlâg, yn Sir y Fflint ym mis Medi y llynedd.
Bu farw yn Ysbyty Countess of Chester ddydd Sadwrn, 20 Medi.
Mewn gwrandawiad adolygu cyn-gwest Mr Beard yn Rhuthun ddydd Iau, clywodd y cwest ei fod wedi ymddiswyddo fel prif hyfforddwr Burnley ym mis Awst.
Roedd Mr Beard wedi rheoli timau menywod Millwall, Chelsea a West Ham, yn ogystal â Lerpwl yn ystod ei yrfa, lle enillodd ddwy bencampwriaeth Uwch Gynghrair Menywod Lloegr yn 2013 a 2014.
Clywodd yr adolygiad fod gan deulu Mr Beard bryderon am ei amser gyda Burnley, lle ymunodd ym mis Mehefin 2025 ar ôl gadael Lerpwl.
Dywedodd y teulu mai gadael Burnley “wnaeth arwain at ddirywiad yn ei iechyd meddwl”.
Fe ddywedodd ei wraig, Debbie Beard: “Fe wnaeth Matt adael Burnley nid er mwyn cael swydd newydd, fe wnaeth adael Burnley oherwydd nad oedd yn hapus yno. Dw i ddim yn meddwl na wnaethon nhw ei adael i symud ymlaen. Dwi’n teimlo fel eu bod wedi’i fwlio, i ddweud y gwir."
Dywedodd crwner dwyrain a chanol Gogledd Cymru, John Gittins, y byddai’n gwahodd CPD Burnley i gyfrannu at y cwest gyda statws person â diddordeb (interested person status).
Ychwanegodd fod unrhyw un sydd wedi achosi neu gyfrannu at farwolaeth person yn gymwys i dderbyn statws person â diddordeb.
Dywedodd Mr Gittins y byddai’n gwneud ymholiadau pellach gyda’r asiant pêl-droed Curtis Dawes a’r League Managers Association (LMA) am ragor o dystiolaeth, gan fod Mr Beard wedi cysylltu â nhw oherwydd pryderon am ei driniaeth yn Burnley.
Clywodd y cwest gan lysfab Mr Beard, Scott Beard, oedd yn dweud ei fod hefyd yn pryderu am amseru rhai negeseuon cyfryngau cymdeithasol, a oedd yn “weddol ddinistriol” i’r rheolwr.
Cafodd y cwest ei ohirio tra bod ymholiadau pellach yn cael eu cynnal.
Os ydych chi wedi eich effeithio gan gynnwys yr erthygl hon, mae cymorth ar gael ar wefan Cymorth S4C.