Y cyn-bencampwr dartiau Mark Webster o Lanelwy wedi derbyn diagnosis o lewcemia

Mark Webster

Mae'r Cymro Mark Webster, sy'n gyn-bencampwr dartiau'r byd, wedi cyhoeddi ei fod yn dioddef o fath prin o ganser y gwaed.

Mae wedi bod yn gweithio fel sylwebydd dartiau i Sky ag ITV yn dilyn gyrfa lwyddianus oedd yn cynnwys cipio teitl BDO y byd yn 2008.

Rhoddodd y gorau i sylwebu ym mis Chwefror ar ôl iddo dderbyn diagnosis o lewcemia 'celloedd blewog' (HCL), sef math ffyrnig o'r salwch sydd yn effeithio ar y gwaed a mer esgyrn.

Mewn cyfweliad gyda sianel Darts World ar YouTube, dywedodd y Cymro 42 oed ei fod wedi derbyn y diagnosis ym mis Ionawr:

“Ar Ionawr 8, cefais ddiagnosis o fath prin o ganser y gwaed o’r enw lewcemia celloedd blewog.

“Mae’n swnio’n ddrwg pan ddywedwch chi lewcemia, ond mae ganddo brognosis da, mae 95% o achosion yn llwyddiannus.

“Nid yw fy nghelloedd gwaed gwyn yn gwella o hyd, felly nid yw fy system imiwnedd yn wych ar hyn o bryd, a dyna pam na allaf fynd yn ôl i’r gwaith."

"Nid dyma'r senario gwaethaf posibl, ond mae ychydig yn rhwystredig i mi ar hyn o bryd, ond rydw i'n ymdopi'n iawn, rydw i'n delio ag e'n iawn."

Llun: Mark Webster yn cael ei holi gan Polly Jmaes (Darts World Media)

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.