Carthffosiaeth yn llifo i draeth poblogaidd yn Sir Benfro

Lydstep
Mae Cyfoeth Naturiol Cymru'n dweud bod carthffosiaeth yn llifo i draeth poblogaidd yn Sir Benfro ar hyn o bryd.
 
Mae Cyngor Sir Penfro wedi gosod arwyddion yn atal pobl rhag nofio yn y môr ger traeth Lydstep, sydd ar garreg drws parc gwyliau cwmni Haven.
 
Mewn datganiad, dywedodd Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod yn "ymwybodol o ddigwyddiad sy’n ymwneud â system garthffosiaeth dan berchnogaeth breifat. 
 
"Mae’r system wedi’i difrodi ac yn gollwng carthion i draeth Haven Lydstep, a allai gael effaith dros dro ar ansawdd y dŵr ymdrochi."
 
Dywedodd llefarydd fod y cyngor lleol "yn gosod arwyddion priodol ar y safle i gynghori’r cyhoedd i beidio mynd i mewn i’r dŵr."
 
Mae perchnogion y safle yn cynnal ymchwiliadau i ganfod ffynhonnell y broblem a gwneud gwaith trwsio. 
 
"Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa a gweithio gyda phartneriaid i sicrhau bod y mater yn cael ei ddatrys cyn gynted â phosibl, a bod risgiau i’r amgylchedd a’r cyhoedd yn cael eu lleihau hyd yr eithaf."
 
Dywedodd Cyngor Sir Penfro fod Cyfoeth Naturiol Cymru wedi rhoi gwybod i'w swyddogion am "sefyllfa annormal" ger y traeth allai gael effaith ar y dŵr yno am gyfnod.
 
"Mae swyddogion o'r Tîm Rheoli Llygredd wedi gosod hysbysiadau rhybuddio mewn gwahanol leoliadau o amgylch y traeth yn cynghori dros dro yn erbyn ymdrochi.
 
"Mae'r mater yn cael ei ymchwilio ar hyn o bryd a darperir diweddariadau pan fyddant ar gael."
 
Llun: Google

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.