Y gantores Bonnie Tyler yn cael llawdriniaeth frys ym Mhortiwgal
Mae'r gantores Bonnie Tyler wedi cael llawdriniaeth frys ar ôl cael ei rhuthro i ysbyty ym Mhortiwgal.
Mae'r seren 74 oed, sy'n wreiddiol o ardal Castell-nedd, yn cael ei thrin yn Faro, Portiwgal, lle mae ganddi gartref.
Dywedodd llefarydd ei bod hi bellach yn gwella yn yr ysbyty yn dilyn llawdriniaeth frys ar ei choluddyn.
"Fe aeth y llawdriniaeth yn dda ac mae hi bellach yn gwella," meddai'r llefarydd.
"Rydym yn gwybod y bydd ei theulu, ffrindiau a chefnogwyr yn bryderus am y newyddion hwn a byddant yn dymuno’n dda iddi am adferiad llawn a chyflym.”
Cafodd Bonnie Tyler ei geni yn Gaynor Hopkins ym mhentref Sgiwen ger Castell-nedd yn 1951.
A hithau wedi tyfu i fyny gyda chariad at gerddoriaeth, cafodd ei darganfod gan y sgowt Roger Bell mewn clwb yn Abertawe.
Mae hi'n fwyaf adnabyddus am ei chân boblogaidd Total Eclipse Of The Heart yn 1983, a ddaeth yn Rhif 1 yn y siartiau.
Roedd ganddi bedwar cân boblogaidd arall yn y deg uchaf, gan gynnwys It’s A Heartache a Holding Out For A Hero.
Fe wnaeth gynrychioli'r Deyrnas Unedig yng nghystadleuaeth Eurovision yn 2013.