Llong bleser ag achosion o'r feirws hanta i angori ger yr Ynysoedd Dedwydd

Llong bleser MV Hondius
MV Hondius

Bydd llong bleser sydd ag achosion o'r feirws hanta ar ei bwrdd yn cael ei hangori ger yr Ynysoedd Dedwydd, meddai Gweinyddiaeth Iechyd Sbaen.

Mae tri o bobl ar y llong wedi marw, ac mae angen gofal brys ar ddau aelod o'r criw.

Y gred yw mai meddyg o Brydain yw un o'r bobl sydd angen gofal.

Roedd disgwyl iddyn nhw adael y llong mewn ambiwlans awyr ddydd Mawrth i fynd i'r Ynysoedd Dedwydd.

Mae swyddogion yn penderfynu pa deithwyr sydd angen gadael y llong ar frys tra mae hi wedi'i docio yn Cape Verde, meddai'r weinyddiaeth iechyd.

Hyd yn hyn, mae saith achos o'r feirws hanta wedi cael eu canfod — dau wedi'u cadarnhau, a phump arall lle mae amheuaeth bod gan yr unigolion y feirws.

Menyw o'r Iseldiroedd yw un o'r achosion sydd wedi cael eu cadarnhau, ac mae hi yn un o'r tri sydd wedi marw.

Yr ail achos yw dyn o Brydain a adawodd y llong yn Ne Affrica er mwyn cael triniaeth feddygol.

Fe wnaeth gŵr y fenyw o'r Iseldiroedd hefyd farw, ond dydi o ddim yn achos sydd wedi cael ei gadarnhau.

Dyna yw'r sefyllfa gyda'r trydydd person hefyd sydd wedi marw. Roedd gan y person yma gysylltiadau â'r Almaen.

Mae gweinyddiaeth iechyd De Affrica wedi dweud bod y ddau achos sydd wedi cael eu cadarnhau yn gysylltiedig â straen Andes o'r feirws, meddai'r gwasanaeth newyddion Reuters. Mae'r straen hwnnw yn gallu cael ei drosglwyddo o berson i berson.

Ar hyn o bryd, mae tua 149 o bobl ar y llong o 23 gwlad wahanol. Maent “dan fesurau caeth, rhagofn”, meddai'r cwmni sydd yn gweithredu'r llong.

Yn ogystal â'r aelod o'r criw sydd o Brydain, mae 22 arall o Brydain ar fwrdd y llong.

Yn ôl Gweinyddiaeth Iechyd Sbaen, fe fydd gweddill y rhai ar y llong yn teithio i'r Ynysoedd Dedwydd. Mae disgwyl iddynt gyrraedd ymhen tri neu bedwar diwrnod.

 

 


 

 

 

 

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.