Dyn yn y llys wedi'i gyhuddo mewn cysylltiad â bygythiad bom ffug honedig yn sioe Peter Kay

Peter Kay

Mae dyn 19 oed sydd wedi’i gyhuddo mewn cysylltiad â bygythiad bom ffug honedig mewn sioe gomedi gan Peter Kay yr wythnos diwethaf wedi’i gadw yn y ddalfa tan y mis nesaf.

Cafodd Omar Majed orchymyn i fynd i’r ddalfa yng nghanol y gwrandawiad 11 munud yn Llys Ynadon Birmingham ddydd Llun, wedi i'r barnwr ofyn droeon iddo fod yn dawel.

Clywodd y llys fod miloedd o bobl wedi gorfod gadael Arena Utilita Birmingham ar ôl i’r dyn ifanc "wthio’i ffordd i mewn" yno heb docyn.

Dywedodd yr erlynydd, Ros Buttler, wrth y llys fod Omar Majed wedi awgrymu'n honedig wrth swyddog heddlu ac eraill y gallai bom fod wedi’i adael yn y lleoliad.

Ychwanegodd fod yr honiad wedi cael "canlyniadau difrifol" mewn digwyddiad lle'r oedd disgwyl cynulleidfa o bron i 13,000 o bobl.

Mae Omar Majed wedi ei gyhuddo gyfathrebu gwybodaeth yr oedd yn gwybod neu’n credu ei bod yn anwir - sef bod bom yn bresennol yn yr arena - wrth swyddog heddlu ac eraill.

Ar ôl cadarnhau ei gyfeiriad a’i ddyddiad geni ar ddechrau’r gwrandawiad ddydd Llun, gofynnodd y Barnwr Rhanbarth Michelle Smith dro ar ôl tro i Omar Majed, o Graham Road, Saltley, Birmingham, i fod yn dawel.

Fe wnaeth y Barnwr Smith, a ymddangosodd yn y llys drwy gyswllt fideo, wneud sawl cais hefyd i Omar Majed eistedd i lawr.

Ar ôl iddo weiddi nad oedd yr amodau mechnïaeth a oedd yn cael eu cynnig yn "dderbyniol", cafodd ei dywys i’r ddalfa cyn diwedd y gwrandawiad.

Ni chafodd ple ei chyflwyno.

Wrth ohirio’r achos ar ôl cyflwyniadau gan yr erlyniad a’r cyfreithiwr ar ran yr amddiffyn, Lauren Clark, gwrthododd y barnwr gais am fechnïaeth.

Dywedodd y Barnwr Smith: "Ar sail popeth rwyf wedi’i ddarllen a’i glywed, rwy’n fodlon y dylid delio â’r achos yn Llys y Goron.

"Bydd yr achos yn cael ei anfon i Lys y Goron Birmingham ar 1 Mehefin."

Cafodd Peter Kay, sy’n 52 oed, ei arwain oddi ar y llwyfan yn ystod ei sioe yn Arena Utilita, Birmingham ddydd Gwener.

Cafodd y sioe ei chanslo ar ôl i'r arena gael ei gwagio, gyda Heddlu Gorllewin Canolbarth Lloegr yn dweud yn ddiweddarach "nad oedd dim byd amheus wedi’i ddarganfod" yn dilyn y broses chwilio yno.

Roedd y sioe yn rhan o daith genedlaethol Better Late Than Never Peter Kay, gyda'r holl elw yn cael ei roi i 12 elusen canser.

 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.