Arolwg newydd yn awgrymu y gallai Plaid Cymru a Reform ennill yr un nifer o seddi

04/05/2026
Dan Thomas a Rhun ap Iorwerth

Mae arolwg barn newydd yn awgrymu y gallai Plaid Cymru a Reform ennill yr un nifer o seddi yn Etholiad y Senedd ar 7 Mai. 

Mae'r arolwg gan More in Common yn awgrymu y gallai'r ddwy blaid ennill 34 sedd yr un, gan adael y ddwy yn brin o fwyafrif, sef 49 sedd.

Yn ôl yr arolwg, byddai disgwyl i'r Blaid Lafur ennill 14 sedd, gyda'r Ceidwadwyr Cymreig â naw sedd, a'r Blaid Werdd yn ennill pum sedd. 

Mae'r arolwg hefyd yn awgrymu na fyddai Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn ennill unrhyw seddi. 

Cafodd 2,159 o bobl eu holi fel rhan o'r arolwg rhwng mis Mawrth ac Ebrill eleni.

Dyma mae'r arolwg yn ei awgrymu o ran canran y bleidlais a nifer y seddi:

- Plaid Cymru - 30% - 34 sedd
 
- Reform UK - 27% - 34 sedd
 
- Llafur - 16% - 14 sedd
 
- Y Ceidwadwyr - 12% - 9 sedd
 
- Y Gwyrddion - 9% - 5 sedd
 
- Y Democratiaid Rhyddfrydol - 4% - dim un sedd
 

Dywedodd cyfarwyddwr gweithredol More in Common UK, Luke Tryl: "Gyda llai nag wythnos i fynd, mae'r ras wedi tynhau. 

"Fel y gwelsom ni ar drothwy is-etholiad Caerffili, mae Llafur yn cael eu gwasgu yn y dyddiau olaf wrth i bleidleiswyr gefnogi Plaid Cymru fel y dewis arall i Reform.

"Ar ôl bron i dri degawd yn arwain y Senedd, fe allai Llafur fethu â chyrraedd y brig mewn unrhyw etholaeth a chael eu gwthio i'r trydydd safle. 

"I Reform, fe fyddai hyn yn cynrychioli datblygiad eithriadol - o fynd o beidio â chystadlu fwy neu lai yn yr etholiad Senedd diwethaf i fod bellach yn y gystadleuaeth am y nifer uchaf o seddi.

"Plaid Cymru sy'n cario'r fantell newid, ac mae'n ymddangos eu bod nhw'n ennill momentwm wrth i ni gyrraedd y llinell derfyn."

Wrth ymateb i'r arolwg, dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol: "Mae'r unig bôl sy'n cyfri yn cau am 22:00 nos Iau. Rydym yn gwybod mewn ardaloedd fel Powys, Abertawe, Aberhonddu a Cheredigion mai'r Democratiaid Rhyddfrydol sydd yn y safle gorau i atal Reform rhag ennill seddi ychwanegol."

Meddai llefarydd ar ran Plaid Cymru,
 
"Mae'r pol piniwn yma yn cadarnhau unwaith eto yr union beth mae Plaid Cymru wedi ei ddweud trwy gydol yr ymgyrch yma: mai ras dau geffyl ydyw rhwng ni a Reform UK. Ond mae hefyd yn dangos pa mor wahanol yw'r ddau ddyfodol sydd yn cael ei gynnig i Gymru ar Fai'r 7fed."
 

Mae Newyddion S4C wedi cysylltu â'r pleidiau eraill am eu hymateb.

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.