Dau wedi marw ar ôl ffrwydrad mewn tŷ ym Mryste

sterncourt road bristol.jpg

Mae dau o bobl wedi marw ar ôl ffrwydrad mewn tŷ ym Mryste fore Sul. 

Dywedodd yr heddlu eu bod yn trin y digwyddiad fel un "amheus".

Fe wnaeth Heddlu Avon a Gwlad yr Haf ddatgan digwyddiad o bwys ar ôl y ffrwydrad mewn tŷ ar Ffordd Sterncourt am tua 06:30. 

Nid yw'r heddlu yn chwilio am unrhyw un arall mewn cysylltiad â'r digwyddiad ac nid ydyn nhw'n trin y digwyddiad fel un terfysgol. 

Mae trigolion sy'n byw yn agos at ardal y ffrwydrad wedi eu symud i ganolfan dros dro, ond nid oes difrod sylweddol i adeiladau cyfagos. 

Ychwanegodd yr heddlu: "Yn dilyn y newid diweddar i lefel bygythiad y DU, hoffem ddarbwyllo'r cyhoedd nad ydyn ni'n trin y digwyddiad hwn fel un terfysgol.

"Rydym yn gofyn i bobl beidio â dyfalu ynghylch yr amgylchiadau ac yn parhau i annog y cyhoedd i osgoi’r ardal tra bod y gwasanaethau brys yn ymateb i’r digwyddiad hwn."

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.