Dynes yn dioddef anafiadau difrifol wedi gwrthdrawiad yn y Rhyl
Mae dyn wedi’i arestio ar ôl i ddynes ddioddef ‘anafiadau difrifol a fydd yn newid ei bywyd’ yn dilyn gwrthdrawiad yn y Rhyl.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad, rhwng car a cherddwr, ar Ffordd Russell yng nghanol y dref am 23.50 nos Wener 1 Mai, ar gyffordd y Stryd Fawr a Stryd Clwyd, yn agos i dafarn The Swan.
Fe wnaeth y gyrrwr adael y lleoliad wedi’r gwrthdrawiad heb stopio, ond fe gafodd ei adnabod yn ddiweddarach a’i arestio.
Cafodd y dyn 32 oed o Brestatyn ei arestio ar amheuaeth o achosi anaf difrifol drwy yrru’n beryglus a methu â stopio. Mae bellach wedi’i ryddhau ar fechnïaeth wrth i ymholiadau’r heddlu barhau.
Dywedodd y Ditectif Arolygydd Tim Evans o’r Uned Ymchwilio Gwrthdrawiadau Difrifol: “Rydw i’n ddiolchgar i aelodau'r cyhoedd a gamodd ymlaen i gynorthwyo’r cerddwr benywaidd sydd wedi dioddef anafiadau difrifol a fydd yn newid ei bywyd.
“Hoffwn ddiolch i swyddogion a staff am eu hymdrechion i adnabod y cerbyd a’r gyrrwr yn gyflym.
“Rwy’n ymwybodol o adroddiadau ar y cyfryngau cymdeithasol yn ymwneud â’r gwrthdrawiad, a hoffwn ofyn i bobl i beidio â thrafod y digwyddiad, oherwydd mae rhywfaint o’r wybodaeth yn anghywir ac fe allai fod yn niweidiol i unrhyw broses farnwrol.”
Mae’r heddlu yn apelio ar unrhyw dystion neu unrhyw un sydd â lluniau dashcam o’r digwyddiad, i gysylltu â nhw gan ddyfynnu’r cyfeirnod O066725.