Cwmnïau hedfan i gyfuno teithwyr ar lai o awyrennau wedi pryderon tanwydd
Fe fydd modd i gwmnïau hedfan gyfuno teithwyr ar lai o awyrennau fel rhan o gynlluniau i arbed tanwydd.
Fe fydd y newid dros dro yn caniatáu i gwmnïau gyfuno hediadau ar lwybrau lle mae sawl taith i'r un lleoliad ar yr un diwrnod.
Mae'n golygu y gallai teithwyr gael eu symud o'u gwasanaeth gwreiddiol i un tebyg er mwyn lleihau faint o danwydd sy'n cael ei wastraffu gan awyrennau sydd heb eu gwerthu allan ac a allai gael eu canslo yn ôl yr Adran Drafnidiaeth.
Ychwanegodd yr adran fod y mesur wedi ei gynllunio i roi "mwy o sicrwydd" i deithwyr drwy helpu'r cwmnïau i sicrhau eu hamserlenni yn gynharach.
Daw hyn wedi rhybuddion am brinder tanwydd awyrennau ar drothwy gwyliau'r haf os nad yw Culfor Hormuz yn ail-agor.
Mae cyflenwadau o danwydd jet o'r Dwyrain Canol wedi cael eu heffeithio ers rhyfel yr Unol Daleithiau ac Israel gydag Iran.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Trafnidiaeth Heidi Alexander: "Does yna ddim problemau cyflenwi brys, ond rydym yn paratoi rŵan i roi sicrwydd hir-dymor i deuluoedd ac i osgoi unrhyw drafferthion di-angen yn y meysydd awyr yr haf hwn."
Er hyn, mae grŵp defnyddwyr Which? Travel yn dweud na ddylid newid y rheolau "o blaid cwmnïau hedfan".
Dywedodd golygydd y grŵp Rory Boland: "Nid yw'n deg i'r rheolau gael eu plygu o blaid cwmnïau hedfan a gadael teithwyr yn talu’r bil o bosibl.
"Bydd llawer o deithwyr yn deall y gall aflonyddwch ddigwydd ac efallai y byddant yn hapus i deithio ychydig oriau neu ddiwrnod yn ddiweddarach, ond i’r rhai ar deithiau byr neu hediadau cysylltu gallai olygu nad yw’r daith werth ei gwneud bellach."