Rhybudd i gadw draw o ardal Pen y Fan o achos tân mawr

Tan
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub y De yn dweud bod swyddogion wedi bod yn brwydro tân dros ardal o 20km sgwâr ym Mharc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog nos Iau.
 
Mae swyddogion yn annog pobl i gadw draw o ardal Pen y Fan am y tro ac roedd adroddiadau bod rhan o ffordd yr A470 ar gau am gyfnod o achos y tân.
 
Dywedodd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol mewn neges nos Iau: "Rydym yn ymwybodol o dân gwyllt yn llosgi ger Pen y Fan. 
 
"Rydym wedi cau’r maes parcio ym Mhont ar Daf ac yn gofyn i bobl gadw draw o’r ardal tan rybudd pellach. 
 
"Mae ein ceidwaid mewn cysylltiad â’r gwasanaeth tân lleol ac yn monitro’r sefyllfa’n agos."
 
Mae'r digwyddiad yn cwmpasu ardal o tua 20 cilomedr sgwâr, gan effeithio ar goedwigaeth, mawn a glaswellt.
 
Mae adnoddau'r gwasanaeth tân yn cynnwys offer tân, cerbydau amrywiol, a drôn y gwasanaeth tân. 
 
Mewn datganiad, dywedodd llefarydd: "Rydym yn gweithio'n agos gyda partneriaid gan gynnwys yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Heddlu De Cymru, ac asiantaethau eraill i reoli'r digwyddiad a diogelu diogelwch y cyhoedd."
 
Cyngor y Gwasanaeth Tân i aelodau'r cyhoedd yw i gadw drysau a ffenestri ar gau os yw mwg yn effeithio arnynt, osgoi'r ardal, gan gynnwys cerdded a gweithgareddau awyr agored, a chadw draw o Ben y Fan a'r ardal gyfagos.
 
Cafodd nifer o danau gwyllt eu darganfod ar hyd a lled Cymru dros y dyddiau diwethaf, gan gynnwys tân sylweddol yn Argae Claerwen a Chwm Elan. Mae llunia trawiadol o Orsaf Dân Rhaeadr Gŵy yn dangos effaith y tân hwnnw ar yr ardal leol:
 
Image
tan
Image
tan2
Image
tan3
 
 

Newyddion diweddaraf

Mae'r wefan hon yn defnyddio cwcis i sicrhau eich bod chi'n cael y profiad gorau ar ein gwefan.