Cannoedd yn defnyddio 'Rheol Martha' ar ôl marwolaeth merch yn Eryri
Mae mwy na 1,700 o staff y GIG wedi galw am gymorth o dan reol a gafodd ei chyflwyno ar ôl marwolaeth merch yn dilyn damwain yng Nghymru.
Fe wnaeth Martha Mills, 13 oed, farw o anaf i’w phancreas ar ôl llithro wrth reidio beic pan oedd ar wyliau ar gyrion Eryri ym mis Gorffennaf 2021.
Bu farw yn Ysbyty King’s College yn Llundain ar Awst 29 2021 ar ôl i’w chyflwr ddirywio.
Ni wnaeth y doctor oedd yn ei thrin gyfeirio Martha i'r uned gofal dwys er iddi ddangos sawl arwydd risg uchel o sepsis.
Ar ôl ymgyrch gan ei rhieni, fe gafodd ‘Rheol Martha’ ei chyflwyno yn holl ysbytai Lloegr sy'n ymdrin â salwch difrifol ym mis Medi y llynedd.
Mae’n caniatáu i deuluoedd a chleifion wneud cais am ail farn feddygol mewn achos o’r fath.
Bydd byrddau iechyd Cymru yn cyflwyno eu cynllun eu hunain sy’n yr un fath a Rheol Martha o’r enw Call 4 Concern (Galwad am Bryder) erbyn mis Gorffennaf eleni.
‘Calonogol’
Roedd rhieni Martha, Merope Mills, golygydd yn The Guardian, a'i gŵr Paul Laity, wedi codi pryderon am iechyd Martha nifer o weithiau ond cafodd y rhain eu hanwybyddu.
Wrth ymateb i ffigyrau GIG Lloegr, fe ddywedon nhw fod nifer y galwadau gan staff yn “dystiolaeth glir” bod “hierarchaeth, cyfathrebu gwael a gwrthwynebiad rhai meddygon i gael eu herio yn effeithio ar ofal mewn ysbytai bob dydd”.
Cyhoeddwyd ddydd Gwener bod Rheol Martha eisoes wedi ei defnyddio gan 1,500 o staff y GIG yn Lloegr yn ystod 18 mis cyntaf y cynllun.
O’r 1,500 o'r achosion hynny, fe wnaeth mwy na 1,000 helpu i adnabod pobl oedd yn gwaethygu’n gyflym.
“Mae’n galonogol iawn i ni fod 1,000 o staff sydd wedi’u hyfforddi’n glinigol eisoes wedi defnyddio rheol Martha,” meddai rheini Martha.
“Rydym yn croesawu trafodaeth gyhoeddus am ofal iechyd sy’n archwilio diwylliant ac sy’n mynd y tu hwnt i’r broblem wirioneddol o adnoddau dan bwysau.
“Ac rydym yn ddiolchgar iawn i holl staff y GIG sydd wedi gweithio mor galed i gyflwyno rheol Martha.”
Y ffigyrau
Mae’r ffigyrau’n dangos bod cyfanswm o 12,301 o alwadau wedi’u gwneud i linellau cymorth Rheol Martha yn ystod ei 18 mis cyntaf.
Roedd bron i dri chwarter y galwadau, sef 72%, drwy’r broses uwchgyfeirio ar gyfer teuluoedd a gofalwyr.
Roedd traean o’r galwadau uwchgyfeirio yn ymwneud â dirywiad acíwt yng nghyflwr claf.
O’r 4,047 o alwadau am ddirywiad, roedd 1,786 yn gofyn am newidiadau i driniaeth, tra bod 534 wedi arwain at ymyriadau achub bywyd i gleifion, fel trosglwyddo i ward arbenigol.
O’r galwadau nad oeddent yn ymwneud â dirywiad claf, fe arweiniodd bron i 3,000 at fynd i’r afael â materion clinigol fel oedi gyda meddyginiaeth neu archwiliadau.
Fe wnaeth 3,054 o alwadau pellach helpu i ddatrys problemau cyfathrebu neu gynllunio rhyddhau cleifion.